Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith i ddechrau ar A541 Abermorddu a Chyffordd A541 / B5102

Published: 20/01/2021

roadworks_SMALL.jpg

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi fod arian Llywodraeth Cymru wedi ei sicrhau i wneud gwaith gwella ar yr A541 Abermorddu a chyffordd A541 / B5102 Llai.

Mae cyffordd Hollybush a chyffordd A541 Abermorddu wedi cael llawer o broblemau tagfeydd am nifer o flynyddoedd. Bydd y cynllun arfaethedig yn ymdrin â’r tagfeydd a gwella amseroedd siwrnai bws ar y rhwydwaith craidd i ddarparu gwell mynediad i addysg, cyfleoedd cyflogaeth a chyfleusterau iechyd ar hyd llwybr yr Wyddgrug i Wrecsam.

Bydd y gwaith yn cynnwys uwchraddio’r goleuadau traffig presennol ar gyffordd Abermorddu, ail-ddylunio’r gyffordd gan gynnwys goleuadau traffig newydd ar yr A541 / B5102 Hollybush, adleoli’r safle bws presennol a rhoi wyneb newydd ar ran o'r ffordd. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 

“Mae hwn yn brosiect sydd wir ei angen a bydd yn gwella cyffordd Abermorddu. Er gwaethaf cyfyngiadau ariannol parhaus, rydym yn falch ein bod wedi gallu sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwelliannau hyn sy’n dangos pwysigrwydd ein rhwydwaith ffordd i’r Cyngor.”

Bydd y gwaith, sydd wedi ei gyflwyno i dendr ar hyn o bryd, yn cychwyn ddechrau Chwefror 2021 a bydd yn digwydd dros gyfnod o 10 wythnos. Bydd yn cael ei reoli gan reolaeth traffig priodol ac efallai bydd angen cau'r ffordd yn ystod y penwythnos. 

Mae mwy o wybodaeth am y cynllun uchod ar gael ar-lein ar GwaithGwellaPriffyrdd.