Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllideb y Cyngor 2016/17

Published: 15/01/2016

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried y camau olaf yn y broses o bennu cyllideb refeniw 2016/17 pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 19 Ionawr. Mae angen llenwi’r bwlch ariannu ar gyfer y flwyddyn anodd sy’n ein hwynebu, ond bydd yn gam mawr ymlaen o ran mantoli’r gyllideb refeniw ar gyfer 2016/17 mewn cyfnod anodd ym maes cyllido’r sector cyhoeddus. Yn Sir y Fflint, llwyddwyd i wneud hyn drwy gyfuniad o gynlluniau busnes gofalus, lleihau gorbenion y sefydliad yn barhaus a mentro’n ofalus i reoli pwysau fel cyflogau a chwyddiant mewn prisiau. Mae’r Cyngor yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru, wrth bennu’r setliad dros dro i Lywodraeth Cymru yng Nghymru, wedi gwrando ar yr achos a gyflwynwyd gan gyrff llywodraeth leol i arafu toriadau ac effeithiau rhaglen gyni Llywodraeth y DU. Llwyddodd Sir y Fflint, gyda chymorth cymunedau lleol drwy gyfrwng yr ymgyrch Dyma’ch Cyfle Chi, i gyfrannu’n effeithiol at yr ymgyrch genedlaethol. Drwy gydol proses y gyllideb, mae’r Cyngor wedi ceisio diogelu gwasanaethau ‘rheng flaen’, cyfleusterau cymunedol a chyllid i ysgolion. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Aaron Shotton: O ganlynia i’r gwaith hwn, rydym yn falch o gyhoeddi na fydd unrhyw fygythiadau newydd i wasanaethau’r Cyngor yn 2016/17. Bydd y rhestr o wasanaethau y nodwyd eu bod dan fygythiad yn y cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr yn cael eu diogelu am flwyddyn arall. Un o flaenoriaethau’r Cabinet eleni yw ceisio sicrhau cynnydd o 1% yng nghyllid craidd ysgolion lleol.” I fantoli’r gyllideb, mae bwlch o £3m yn parhau, sy’n cynnwys pwysau newydd a nodwyd dros fisoedd y gaeaf ers cyhoeddi rhagolygon y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Bydd gwaith yn parhau i fynd rhagddo i gau’r bwlch hwn cyn cyflwyno adroddiad terfynol gerbron y Cabinet ym mis Chwefror. Ychwanegodd y Cynghorydd Shotton,Mae gwaith yn mynd rhagddo i fantoli’r gyllideb erbyn 16 Chwefror, sef y dyddiad cau. Bydd yn hanfodol i Lywodraeth Cymru dorri cyn lleied â phosibl ar y grant i gynghorau lleol yn y dyfodol. Rhaid hefyd fynd ati ar fyrder i ddiwygio’r system o ariannu llywodraeth leol. Ni all Sir y Fflint barhau i dderbyn £17.5 miliwn yn llai bob blwyddyn na’r grant cyfartalog a roddir i gynghorau Cymru ar sail maint poblogaeth cymharol.