Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn cefnogi dinasyddion yr UE sy’n byw yn Sir y Fflint

Published: 22/01/2021

Mae proses ymgeisio’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn helpu dinasyddion yr UE i gael y statws sydd eu hangen arnyn nhw i barhau i fyw a gweithio yn y DU. Mae’n rhaid gwneud cais erbyn 30 Mehefin 2021.

MAE’N RHAID i bob gweithiwr o’r UE fod â statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog erbyn 30 Mehefin 2021 er mwyn parhau i fod â hawliau yn y DU, gan gynnwys yr hawl i weithio yn y DU. Os oes ar unrhyw un o’ch gweithwyr neu’ch cydweithwyr angen cymorth, cysylltwch â Chyngor ar Bopeth Sir y Fflint ar 01352 706840 neu 0300 3309 059, neu anfonwch neges i settled.status@flintshirecab.cabnet.org.uk

Os ydych chi’n ddinesydd yr UE, AEE neu'r Swistir, fe allwch chi a’ch teulu wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE er mwyn parhau i fyw yn y DU ar ôl 30 Mehefin 2021. Mae’r AEE yn cynnwys gwledydd yr UE a Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy.

Efallai y gallwch chi aros yn y DU heb wneud cais – er enghraifft, os ydych chi’n ddinesydd Gwyddelig neu os oes gennych chi ganiatâd amhenodol i aros.

Am fwy o wybodaeth ac i drefnu apwyntiad, ffoniwch 03333 445 675. Os oes gennych chi fynediad at y we, mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.gov.uk/settled-status-eu-citizens-families.