Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn chwifio’r faner

Published: 03/02/2021

New pride flag.png

Mae Cyngor Sir y Fflint yn codi'r faner enfys y tu allan i Neuadd y Sir unwaith eto eleni i gefnogi mis hanes pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT+) yn ystod mis Chwefror. 

Mae'r digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi cyfle i bobl ddysgu mwy am hanes a chyflawniadau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol a'r mudiad hawliau pobl hoyw a hawliau sifil. 

Mae hyn hefyd yn adeg i gofio am y camwahaniaethu y mae llawer wedi’i wynebu a’r siwrnai a wnaed tuag at gydraddoldeb LGBT+. 

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol a Phencampwr Diogelu’r Cyngor:

“Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi mis hanes LGBT+ unwaith eto. Mae chwifio'r faner drwy gydol mis Chwefror yn anfon neges glir ein bod wedi ymrwymo i gydraddoldeb i bawb, o fewn y Cyngor a'n cymuned ehangach”.

Thema eleni yw “Corff, Meddwl, Ysbryd”.  

I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r wefan lgbtplushistorymonth.org.uk.