Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyfarfod Pwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) Cymru
Published: 27/05/2014
Cynhaliodd Pwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ei 28ain
cyfarfod yn Neuadd Sir y Fflint yn yr Wyddgrug.
Roedd y cyfarfod, a gafodd ei westeia gan Gyngor Sir y Fflint ddydd Mercher, 21
Mai, yn golygu bod Pwyllgor Cymru wedi cyfarfod ym mhob ardal awdurdod lleol
ledled y wlad erbyn hyn.
Bu i aelodau’r Pwyllgor wahodd preswylwyr lleol, grwpiau cymunedol a busnesau i
dderbyniad amser cinio i drafod eu barn a’u hanesion personol am faterion, gan
gynnwys y ffordd orau i fynd i’r afael â throseddau casineb a cham-drin
domestig, effaith diwygio lles, materion yn ymwneud â mynediad at ganol trefi
a’r angen am gyngor ansawdd da.
Mae Pwyllgor Cymru yn cysylltu â chymunedau er mwyn gosod blaenoriaethau wedi’u
seilio ar wybodaeth a phrofiad sy’n cael eu rhannu gan bobl leol. Mae hyn yn
galluogi’r Pwyllgor i gynghori Bwrdd y Comisiwn a Llywodraeth Cymru ar
gydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.
Fel ei flaenoriaeth gyntaf yn 2007, cytunodd Pwyllgor Cymru ar bwysigrwydd
cynrychioli Cymru gyfan. Dros y chwe blynedd diwethaf, mae wedi teithio ar hyd
a lled Cymru i gynnal ei gyfarfodydd ag ystod o bobl, o uwch arweinwyr
gwasanaethau cyhoeddus a’r sector preifat i wirfoddolwyr ac ymgyrchwyr
cydraddoldeb ar y rheng flaen.
Dywedodd Ann Beynon, Comisiynydd EHRC Cymru: “Mae gwrando a deall barn
trigolion Cymru am gydraddoldeb a hawliau dynol yn ein helpu i sicrhau ei bod
yn cysylltu â chymunedau ledled Cymru ac y gallwn adlewyrchu eu lleisiau yng
ngwaith y Comisiwn.
“Yn yr Wyddgrug, fe wnaethom wrando a dysgu am brofiadau’r 150,000 o bobl sy’n
byw yn Sir y Fflint. Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Sir y Fflint am westeia
cyfarfod Pwyllgor Cymru, sy’n nodi’r ardal awdurdod lleol olaf yng Nghymru i ni
ymweld â hi. Bûm yn ffodus iawn i gael ei gwesteia gan lawer o gyrff cyhoeddus
ledled Cymru dros y chwe blynedd diwethaf, ac mae hyn wedi ein galluogi i
feithrin partneriaethau cryf a chynhyrchiol ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng
Nghymru i adeiladu Cymru decach.”
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol, Billy Mullin: “Rydym yn
falch iawn o westeia cyfarfod pwyllgor y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
(EHRC). Mae Cyngor Sir y Fflint yn cymryd ei gyfrifoldebau dan Ddeddf
Cydraddoldeb 2010 o ddifrif, ac mae’n ymrwymo i ddatblygu gweithle cynhwysol a
darparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n bodloni anghenion ein cymuned
amrywiol.
“Mae EHRC wedi comisiynu ymchwil amhrisiadwy sy’n creu dealltwriaeth well o’r
anghydraddoldebau yng Nghymru a’r ffyrdd y gellir mynd i’r afael â’r rhain.
Mae hyn yn cyfrannu at amcanion cydraddoldeb y Cyngor a’i Gynllun Cydraddoldeb
Strategol, sydd â’r nod o leihau anghydraddoldebau yn Sir y Fflint.”
Am ragor o wybodaeth, ewch i’r wefan www.equalityhumanrights.com/wales
Pennawd y llun: Aelodau Pwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru
gyda staff Cyngor Sir y Fflint a grwpiau cymunedol yn y derbyniad