Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygu’r Polisi Cwynion Corfforaethol

Published: 10/02/2021

Bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gymeradwyo’r Polisi Pryderon a Chwynion a’r Polisi Rheoli Cyswllt â Chwsmeriaid yn eu cyfarfod ddydd Mawrth, 16 Chwefror. 

Bydd y ddau bolisi, os cânt eu cymeradwyo, yn dod i rym ar 1 Ebrill 2021. 

Er mwyn cydymffurfio â Deddf Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 a’r canllawiau dull ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, mae Polisi Cwynion y Cyngor, sy’n ymdrin â chwynion yn erbyn gwasanaethau’r Cyngor gan eithrio gwasanaethau cymdeithasol ac ysgolion, wedi cael ei adolygu. 

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:

“Mae ein polisi diwygiedig yn cydymffurfio ag egwyddorion yr Ombwdsman o ran ymdriniaeth dda â chwynion ac yn sicrhau ein bod yn ymdrin â phob cwyn yn effeithiol.  Mae wedi cael ei ddiweddaru er mwyn atgyfnerthu ein diwylliant a’n hymddygiad yn Sir y Fflint ymhellach, sy’n rhoi pwyslais ar drin pobl yn deg a gyda pharch, a gwrando ar ein cydwybod a gweithredu gyda gonestrwydd.”

Nid oes unrhyw newidiadau sylweddol i’r broses gwyno, rydym yn parhau i weithredu dull dau gam yn ogystal â’r hawl i uwchgyfeirio cwyn at yr Ombwdsman os yw pobl yn parhau i fod yn anfodlon ar ôl dilyn gweithdrefn gwyno’r cyngor. 

Disgwylir hefyd i Bolisi Rheoli Cyswllt â Chwsmeriaid newydd gael ei gymeradwyo a fydd yn darparu canllawiau clir i swyddogion ar sut i reoli’r nifer fechan o achosion lle mae gweithredoedd neu ymddygiad cwsmer yn herio ein gallu i ddarparu gwasanaeth effeithiol i bawb. 

Mae’r polisi hefyd yn ceisio diogelu swyddogion rhag ymddygiad ymosodol, camdriniol neu annymunol, a gofynion a chyndynrwydd afresymol.