Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn mynd i’r afael â’r clefyd coed ynn

Published: 11/02/2021

Ash1.jpg

Mae clefyd coed ynn yn haint sy’n effeithio ar goed ynn brodorol y DU; hwn ydi’r clefyd coed mwyaf arwyddocaol i effeithio ar y DU ers clefyd llwyfen yr Iseldiroedd.

Mae’r clefyd wedi cyrraedd Sir y Fflint ac fe all effeithio ar filoedd o goed ynn yn y Sir.  Does dim modd atal lledaeniad y clefyd sy’n golygu bod yna oblygiadau diogelwch i’r Cyngor a thirfeddianwyr pan fo coed ynn wrth ymyl pobl neu eiddo. 

Mae’r Cyngor wedi dechrau mynd i’r afael â’r clefyd, ac mae pobl wedi gweld y timau coed ar hyd yr A5151 o Loc i Drelawnydd. Yna byddant yn symud ymlaen i'r A541 drwy ardal Hendre, yr wythnos yn cychwyn 15 Chwefror.

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Mae gennym gynllun ar gyfer pa ardaloedd i'w targedu'n gyntaf.  Yn amlwg, mae’n bwysig edrych ar y coed sy’n agos at briffyrdd a mannau cyhoeddus, ac felly byddwn yn canolbwyntio ar y rhain yn gyntaf.  Mae arnom eisiau codi ymwybyddiaeth tirfeddianwyr bod yn rhaid iddyn nhw fod yn ymwybodol o’r clefyd a’i effeithiau, a sicrhau eu bod yn delio ag unrhyw berygl posibl." 

Dywedodd Arolygydd Coed Cyngor Sir y Fflint, Dewi Elis: 

“Bydd y coed hyn, os ydynt yn cael ei gadael, yn achosi problemau, ac er ei fod yn ymddangos yn llym, nid oes gennym ddewis arall, ac mae’n well torri’r coed yn ddiogel. Nid yw Cyngor Sir y Fflint eisiau gadael iddynt ddisgyn ar eu pen eu hunain, gan y byddai hynny’n ofnadwy o beryglus."

Mae rhagor o wybodaeth, yn cynnwys Cynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn Sir y Fflint, canllawiau ar gyfer tirfeddianwyr, rheoli coed er diogelwch a gwarchod bywyd gwyllt, ar gael ar wefan y Cyngor.