Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn cefnogi gofalwyr ifanc

Published: 12/02/2021

Carer young small.jpg

Fe lansiwyd Gwasanaeth Cefnogi Gofalwyr Ifanc newydd ar 1 Gorffennaf 2020 ac mae’n cael ei gyflwyno gan Ofalwyr Ifanc Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (GOGDdC).  

Nod y gwasanaeth yw darparu un pwynt mynediad agored i bob gofalwr ifanc hyd at 25 mlwydd oed, eu teuluoedd, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau partner. 

Yn y cyfnod byr y mae’r Gofalwyr Ifanc GOGDdC wedi bod yn cyflwyno’r gwasanaeth, mae wedi perfformio’n well na disgwyliadau’r contract y gwasanaeth a chanlyniadau cyflawni; sydd yn arwydd cadarnhaol o’r hyn sydd i ddod. 

Fe drosglwyddodd GOGDdC 47 o ofalwyr ifanc i’r gwasanaeth newydd ym mis Gorffennaf 2020. Ers hynny, maent wedi derbyn 201 atgyfeiriad newydd ar gyfer gofalwyr ifanc ac mae 257 ymhellach o ofalwyr ifanc o dan 25 oed eisoes wedi cofrestru gyda GOGDdC.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chefnogwr Gofalwyr Cyngor Sir y Fflint:

“Mae ein gofalwyr ifanc yn darparu cefnogaeth hanfodol i’w teuluoedd a’u hanwyliaid ac rydym ni’n gwerthfawrogi eu hymrwymiad a’u hanhunanoldeb wrth ddarparu’r gefnogaeth honno. 

“Rydym ni hefyd wedi ymrwymo i helpu a chefnogi ein gofalwyr ifanc gyda'r ymrwymiadau hynny ac i sicrhau nad ydi eu lles yn cael ei hesgeuluso a’u bod yn cael yr un cyfleoedd ar gyfer addysg a chyflogaeth ag y mae pobl ifanc eraill yn ei gael.”

Mae Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar ofalwyr ifanc, sydd yn sôn am nifer cynyddol o heriau, yn cynnwys: cynnydd yn eu rôl a chyfrifoldebau gofalu, teimlo eu bod wedi’u hynysu a cheisio cydbwyso dysgu/addysg. 

Mae’r pandemig hefyd wedi arwain at ofalwyr ifanc yn ceisio cael gafael ar fodd adnabod ffurfiol er mwyn iddynt geisio cael mynediad at fwyd a meddyginiaethau hanfodol yn haws.  Dyluniodd y gofalwyr ifanc logo newydd ar gyfer y gwasanaeth ym mis Awst. Fe gwefan newydd a thudalen ar Facebook i ofalwyr ifanc wedi cael ei sefydlu, ac mae 242 o bobl yn dilyn GOGDdC ar ei safle cyfryngau cymdeithasol. 

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Iechyd a Chymdeithasol Sir y Fflint, Cynghorydd Hilary McGuill: 

“Does neb yn gofyn i gael bod yn ofalwr ifanc: mae’n cael ei wthio arnynt yn sgil amgylchiadau y tu hwnt i’w rheolaeth. Yr hyn nad yw pobl yn ei sylweddoli ydi faint o fywyd y person ifanc hwnnw sy’n cael ei lenwi gyda’r rôl gofalu, weithiau maent yn gofalu am oedolyn yn y teulu, neu weithiau frawd neu chwaer.  

“Fe ddylem ni wneud popeth fel cymdeithas i wneud bywydau’r bobl ifanc anhunanol yma’n well. Dyna pam rwy’n canmol y gwaith y mae’r Cyngor a GOGDdC yn ei wneud gyda gofalwyr ifanc, gan gydweithio i newid bywydau gofalwyr ifanc er gwell.”

Mae cefnogaeth Sir y Fflint i ofalwyr ifanc wedi bod yn ymatebol gan ganolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn sicrhau ein bod yn helpu gofalwyr ifanc yn ystod y cyfnod eithriadol o heriol yma; mae hyn wedi cynnwys bwyd a bocsys diddanu, cefnogaeth ar-lein, grwpiau a gweithgareddau dros y we yn ogystal â chymorth gyda mynediad at ffonau, tabledi a’r rhyngrwyd er mwyn i bobl ifanc allu cadw mewn cysylltiad.  

Mae GOGDdC a’n Gofalwyr Ifanc wedi bod yn rhan o ddatblygu cerdyn ID Gofalwyr Ifanc Gogledd Ddwyrain Cymru a fydd yn cael ei lansio ar 16 Mawrth 2021.