Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Estyniad i’r Gronfa I Fusnesau Dan Gyfyngiada

Published: 15/02/2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi estyniad i’r Gronfa I Fusnesau Dan Gyfyngiadau i barhau i gefnogi busnesau yn y sectorau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth ddianghenraid sydd wedi cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y cyfyngiadau presennol.  

Mae’r grant yn darparu cymorth hanfodol i fusnesau ar gyfer y cyfnod hyd at ddiwedd Mawrth 2021, gyda thaliadau awtomatig yn cael eu gwneud yn fuan i fusnesau.

Mae taliad sengl pellach o £3,000 neu £5,000 yn cael ei wneud yn awtomatig i fusnesau cymwys gyda gwerth ardrethol o dan £150,000 ac sydd wedi derbyn Grant gan y Gronfa I Fusnesau Dan Gyfyngiadau yn Rhagfyr/Ionawr heb yr angen i orfod gwneud cais pellach.  

Mae’r cynllun wedi cael ei ymestyn hefyd i gynnig grant am y tro cyntaf o’r Gronfa I Fusnesau Dan Gyfyngiadau i fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth ddianghenraid gyda gwerth ardrethol o £151,000 i £500,000, gan ddarparu cymorth ariannol o £5,000 i hyd yn oed mwy o fusnesau Sir y Fflint.  Bydd y busnesau hyn angen gwneud cais byr ar-lein.

Bydd yr holl gynlluniau, fel gyda Grant yr Gronfa I Fusnesau Dan Gyfyngiadau, ar gael hefyd i fanwerthwyr hanfodol a busnesau cadwyn gyflenwi i’r sector manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sydd wedi gweld lleihad o fwy na 40% mewn trosiant yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau.

Bydd Grant Dewisol Lleol ar gael hefyd i gefnogi busnesau ac unig fasnachwyr sydd heb gofrestru ar y Rhestr Ardrethu Annomestig ond sydd wedi cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y cyfyngiadau estynedig.  Gall busnesau wneud cais ar-lein am y Grant Dewisol Lleol o £2,000 o dan y cynllun presennol, ond mae’r rheiny sydd wedi derbyn grant ar gyfer y cyfnod Rhagfyr 2020/Ionawr 2021 yn gallu ail ymgeisio ar gyfer y swm atodol hwn.

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:

 “Rydym yn parhau i gefnogi busnesau lleol ac yn deall yr heriau y maen nhw’n ei wynebu yn ystod y cyfnod anodd hwn, yn enwedig y rheiny sydd wedi cael eu gorfodi i gau oherwydd y cyfyngiadau.  Mae’r Cyngor yn falch o allu helpu drwy weinyddu’r pecyn cymorth ariannol hwn.

"Dwi’n croesawu bod y cynllun bellach yn cynnwys cymorth ar gyfer hyd yn oed mwy o fusnesau gyda gwerth ardrethol o hyd at £500,000 yn y sectorau manwerthu, hamdden, twristiaeth  a lletygarwch a’u cadwyni cyflenwi.

"Mae’r taliadau newydd hyn ar ben mwy na 5,500 o grantiau sydd yn dod i gyfanswm o £40.3miliwn sydd wedi ei talu mewn grantiau yn barod yn ystod y pandemig i roi cymorth mawr ei angen i fusnesau, mentrau cymdeithasol a chyrff elusennol Sir y Fflint.”  

 

Mae mwy o wybodaeth am bob cynllun a ffurflenni cais ar gael yn www.siryfflint.gov.uk/Grantiaucefnogibusnes