Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Sir y Fflint yn erlyn perchennog bwyty

Published: 26/02/2021

Mae perchennog bwyty yn Sir y Fflint wedi pledio’n euog i ddwy drosedd dan ddeddfwriaeth tai a ddyluniwyd i ddiogelu meddianwyr eiddo amlfeddiannaeth, yn dilyn erlyniad llwyddiannus gan dîm Iechyd yr Amgylchedd Sir y Fflint. 

Methodd Noorjahan Begum o Hasligden Road, Rossendale, Sir Gaerhirfryn, sef un o berchnogion Bwyty Amantola ar Welsh Road yn Garden City, â chydymffurfio â Gorchmynion Gwahardd a wnaed yn 2019.

Cynhaliodd tîm Iechyd yr Amgylchedd ymweliad â’r llety staff yn y safle ym mis Medi a mis Tachwedd 2019. Roedd yn cynnwys hen swyddfeydd ar lawr cyntaf y ddau adeilad. 

Yn yr adeilad drws nesaf i’r bwyty, gwelwyd bod staff yn byw gyda risgiau tân difrifol. Nid oedd larwm tân na drysau tân, roedd amodau’n fudr, roedd gwresogyddion cludadwy yn cael eu defnyddio, roedd diffygion trydanol ac roedd cyfleusterau coginio’n cael eu defnyddio ar y llwybr ar gyfer gadael yr adeilad mewn argyfwng. O ganlyniad, gwnaeth y tîm Iechyd yr Amgylchedd Orchymyn Gwahardd. 

Gwelwyd bod staff a oedd yn byw uwchben y bwyty yn byw gyda risgiau tân difrifol hefyd. Roedd larwm diffygiol, gwresogyddion cludadwy yn cael eu defnyddio, gwifrau trydanol ar ddangos a chyfleusterau coginio annigonol. Roedd yr amodau byw uwchben y bwyty mor ddifrifol fel bod rhaid i’r tîm Iechyd yr Amgylchedd wneud Gorchymyn Gwahardd Brys.

Yn ystod ymweliad arall gan y tîm Iechyd yr Amgylchedd ym mis Ionawr 2020, roedd yr eiddo’n dal i gael eu defnyddio gan staff at ddibenion byw a chysgu – gan dorri’r Gorchmynion Gwahardd.  

Wrth liniaru, dadleuodd Begum fod camau wedi’u cymryd bellach i ddileu’r risg a bod presenoldeb tenant yn achosi anawsterau ymarferol.  Er hynny, dywedodd Ynadon ei bod yn glir bod Begum wedi methu â gwneud y gwaith trwsio angenrheidiol ac wedi rhoi’r staff mewn perygl.  Yn y gwrandawiad, plediodd Begum yn euog i’r ddwy drosedd a chafodd orchymyn i dalu £2,115 cyn pen 28 diwrnod.  

Dywedodd y Cynghorydd Christopher Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:

“Mae’r erlyniad llwyddiannus hwn yn adlewyrchu ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i sicrhau bod tai amlfeddiannaeth yn bodloni’r holl safonau cyfreithiol sydd eu hangen ar gyfer y math hwn o eiddo yng Nghymru. 

“Rydym yn credu bod gan bawb yr hawl i fyw mewn cartref sydd mewn cyflwr da, gyda mynediad parod at bob amwynder hanfodol a heb unrhyw beryglon adeileddol. Er ein bod yn ceisio lleihau effeithiau iechyd o ganlyniad i gyflyrau tai gwael drwy gyfuniad o gyngor a chymorth ariannol, o bryd i'w gilydd rydym yn delio gyda materion sydd mor ddifrifol fel bod erlyn yn hanfodol. 

“Mae’r erlyniad llwyddiannus hwn yn anfon neges glir i landlordiaid a darparwyr llety eraill fod diffyg cydymffurfio â safonau tai presennol yn gwbl annerbyniol, a bydd Cyngor Sir y Fflint yn diogelu ei breswylwyr.  Mae’n adlewyrchu ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i sicrhau bod cartrefi yn y sector rhentu preifat yn cael eu rheoli’n briodol.”

 

Amantola 1.JPG 

  

Amantola 2.JPG
Amantola 3.JPG     Amantola 4.JPG