Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gogledd Cymru yn lansio Cerdyn Adnabod ar Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc, i gefnogi gofalwyr ifanc dewr yn y gymuned

Published: 15/03/2021

YOUNG CARERS ID CARD.pngMae Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc ar 16 Mawrth 2021 yn ddiwrnod ar gyfer plant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru a’r DU sy’n gofalu am rywun (rhiant neu frawd neu chwaer sy’n sâl neu’n anabl).  Ac ar y diwrnod yma bydd Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc Gogledd Cymru yn cael ei lansio, i gydnabod y gofalwyr ifanc arbennig sydd yma yn y gogledd! 

Roedd gofalwyr ifanc wedi gofyn am gerdyn adnabod fel bod athrawon, gweithwyr iechyd proffesiynol a mân-werthwyr yn gwybod fod ganddyn nhw gyfrifoldebau pwysig. Mewn ymateb i’r cais yma amlinellodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, ei hymrwymiad i’r fenter hon i ddosbarthu cerdyn adnabod cenedlaethol i ofalwyr ifanc. Daw hyn yn dilyn Ymchwiliad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 a’i heffaith ar ofalwyr, yn ogystal â mynd i’r afael â thair blaenoriaeth genedlaethol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Hoffwn ddiolch i holl ofalwyr ifanc Cymru am y gefnogaeth wych maen nhw’n ei rhoi i deulu a ffrindiau yn yr amseroedd anodd hyn.  

“Hyd yn oed cyn i’r pandemig ddechrau, roedden ni’n gwybod bod gofalwyr ifanc yn wynebu pwysau niferus tra’n gofalu am rywun. Mae'r deuddeg mis diwethaf wedi dangos i ni, yn anffodus, nad yw llawer o bobl yn gwybod sut i adnabod, helpu neu gefnogi gofalwr ifanc. 

“Bydd y cerdyn adnabod cenedlaethol hwn yn rhoi ffordd gyflym i ofalwyr ifanc hysbysu eu hathrawon, staff archfarchnadoedd, fferyllfeydd neu eu meddygfa, eu bod yn gofalu am rywun. Bydd hefyd yn eu helpu i gyrchu eu hawliau o dan ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru, gan gynnwys eu hawl i asesiad o anghenion gofalwyr.

“Rwy’n falch ein bod yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i sicrhau bod pob ardal yng Nghymru yn cynnig cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc erbyn 2022. Mae’r ymagwedd ranbarthol gan yr awdurdodau lleol ledled Gogledd Cymru, a’u gwaith gyda Phowys, yn gam cadarnhaol iawn ymlaen i gyflawni'r nod hwnnw. Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn oll sicrhau gwell cefnogaeth a chydnabyddiaeth ar gyfer gofalwyr ifanc ledled Cymru.”

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chefnogwr Gofalwyr Cyngor Sir y Fflint:

“Mae Sir y Fflint wedi bod yn cyfrannu at gyflawni ein dull rhanbarthol unigryw yng Ngogledd Cymru a sicrhau ei lwyddiant.  Rwy’n falch iawn y bydd y cerdyn adnabod yn cael ei lansio ar Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc.  Mae’r bobl ifanc hyn yn darparu cefnogaeth hanfodol i’w teuluoedd a’u hanwyliaid ac rydym ni’n gwerthfawrogi eu hymrwymiad a’u hanhunanoldeb yn fawr iawn.    Bydd Sir y Fflint yn parhau i’w helpu a’u cefnogi nhw a darparu cyfleoedd ar gyfer addysg a chyflogaeth sydd ar gael i bobl ifanc eraill.”

Mi fydd y cardiau yn cael eu dosbarthu fesul cam a bydd yr holl awdurdodau lleol wedi lansio eu cardiau adnabod erbyn mis Ebrill 2022. Mae llawer o ardaloedd yng Nghymru yn datblygu eu cynlluniau lleol rwan ond mae gogledd Cymru yn wedi penderfynu gwneud pethau mewn ffordd wahanol a datblygu cerdyn adnabod mewn partneriaeth er mwyn rhoi mwy o ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth i ofalwyr ifanc.  Mae lawnsiad Gogledd Cymru a Powys yn digwydd ddydd Mawrth 16 Mawrth 2020 5:30yp.

Bydd un ymhob 12 plentyn yn dod yn ofalwyr ifanc ar ryw adeg yn ystod eu plentyndod (BBC 2010). Mae yna arwyr ifanc, di-glod ymhob cymdogaeth. Mae pob gofalwr ifanc yn wahanol, ond dyma ychydig o enghreifftiau o’r pethau y maen nhw’n gorfod eu gwneud pob dydd:  

  • Siarad efo rhiant / brawd neu chwaer sydd wedi cynhyrfu a’u helpu i gyfathrebu  
  • Helpu rhiant / brawd neu chwaer i ddod allan o’r gwely a newid 
  • Nôl presgripsiynau a rhoi meddyginiaethau 
  • Rheoli cyllideb y teulu  
  • Coginio, gwaith ty, siopa

Ond yn aml iawn yr her fwyaf ydi’r poen meddwl yn sgil edrych ar ôl rhiant neu frawd neu chwaer, a phobl ddim yn deall. Yn anhygoel, gyda chydnabyddiaeth a chefnogaeth gall gofalwyr ifanc fod yn llwyddiannus iawn. Er eu bod nhw wedi hen arfer bod yn gyfrifol a gwneud pethau, yn anffodus dydi nifer ohonyn nhw ddim yn cyflawni eu potensial ac maen nhw’n gallu teimlo’n unig iawn – a dyna pam bod codi ymwybyddiaeth a’r cerdyn adnabod mor bwysig. 

“Rydw i’n gofalu am fy mrawd bach sydd ag awtistiaeth ddifrifol. Byddai cael cerdyn adnabod gofalwr ifanc yn help mawr, yn enwedig yn yr ysgol er mwyn i mi gael fy nghydnabod fel gofalwr ifanc. Byddai cael cefnogaeth Deadpool, Clwb Pêl-Droed Wrecsam yn wych ac mi fyswn i’n ddiolchgar iawn petaen nhw’n gallu hyrwyddo’r lansiad yma?”

Yn ogystal ag adnabod a chodi ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc, mae’r cardiau adnabod yn cael eu datblygu i gydnabod eu rolau gofalu pwysig ac anweledig. Nod y fenter genedlaethol, gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ydi helpu gofalwyr ifanc 18 oed ac iau i dderbyn y gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir; felly os ydi gofalwr ifanc yn dangos y cerdyn i athro, doctor neu fferyllydd yna fe allan nhw wedyn dderbyn cefnogaeth briodol.   

Meddai Kate Cubbage, Pennaeth Materion Allanol ar gyfer Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru: 

“Mae gofalwyr ifanc ledled Cymru wedi aros yn rhyd hir am gerdyn adnabod i’w helpu i gael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

“Rydyn ni wrth ein bodd bod awdurdodau lleol ledled Gogledd Cymru wedi gweithio ar y cyd i ddatblygu dull rhanbarthol o ddarparu cynllun cerdyn adnabod sy'n gyson ar draws yr holl awdurdodau lleol. Dyma'r dull rhanbarthol cyntaf a lansiwyd o dan y model cenedlaethol newydd ac edrychwn ymlaen at weld cerdyn adnabod ym mhob ardal yng Nghymru erbyn 2022.

“Bydd y cerdyn a’r adnoddau ategol ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn helpu i rymuso gofalwyr ifanc i siarad yn agored â gweithwyr iechyd proffesiynol, gofal cymdeithasol ac addysg am eu hanghenion. Bydd yr adnoddau, sydd ar gael i'w lawrlwytho ar Carers.org/YCID, hefyd yn rhoi'r offer sydd eu hangen ar weithwyr proffesiynol i gydnabod gofalwyr ifanc a'u cefnogi'n briodol.

“Rydym yn falch ein bod wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyrff proffesiynol ledled Cymru i wneud cynnydd mor gadarnhaol i ofalwyr ifanc.”

Mae Covid-19 wedi cael effaith fawr ar ofalwyr ifanc, sydd wedi gweld cynnydd yn yr heriau y maen nhw;n eu hwynebu e.e. mwy o ddyletswyddau a chyfrifoldebau gofalu, unigedd a chydbwyso dysgu/addysg.  Mae’r pandemig hefyd wedi arwain at gynnydd yn nifer y gofalwyr ifanc sy’n chwilio am ddull adnabod i’w helpu nhw gael bwyd a meddyginiaethau. Yn ystod y cyfnod clo efallai eich bod chi wedi gweld Fayeth ar newyddion y BBC. Cafodd Fayeth, sy’n ofalwr ifanc, ei rhwystro rhag mynd i siopa gan ei bod hi’n blentyn. Doedd pobl ddim yn sylweddol bod arni angen nôl neges i’w theulu – ond, diolch byth, cafodd ei chynorthwyo, ynghyd â gofalwyr ifanc eraill, gan gerdyn adnabod. Mae’r cerdyn wedi gwneud gwahaniaeth mawr a dechreuodd ei harchfarchnad leol ei chroesawu a’i chefnogi yn ystod ei hymweliadau. Pan fo athrawon yn gwybod fod disgybl yn ofalwr ifanc maen nhw’n gallu holi sut y gallan nhw helpu’r plentyn i lwyddo a chysylltu â sefydliadau lleol sydd hefyd yn gallu helpu. 

Os wyddoch chi am rywun a all fanteisio ar gerdyn adnabod gofalwyr ifanc, hoffwn fynychu'r lansiad rhithwir ar ddydd Mawrth 16eg Mawrth 2020 neu sydd eisiau siarad efo rhywun am eu cyfrifoldebau gofalu, cysylltwch â:

Gweithredu dros Blant (Ynys Môn & Gwynedd) – (01248) 364614

gwyneddyoungcarers@actionforchildren.org.uk / ynysmonyoungcarers@actionforchildren.org.uk 

Credu (Conwy, Sir y Ddinbych & Wrecsam) – (01597) 823800 /  info@wcdyc.org.uk 

NEWCIS (Sir y Fflint) – (01352) 752525 / nyc@newcis.org.uk  

I glywed mwy am Gofalwyr Ifanc a Chlwb Pêl-Droed Wrecsam, prynwch docynnau ar gyfer eu gêm gartref ar 16 Mawrth 2021 yn erbyn Eastleigh yma