Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2020/21

Published: 11/03/2021

Money small.jpgMewn cyfarfod ar ddydd Mawrth 16 Mawrth, byddir yn gofyn i aelodau’r Cabinet nodi sut y mae’r Cyngor wedi rheoli cyllideb 2020/21 yn llwyddiannus er gwaethaf amgylchiadau heriol.

Y sefyllfa a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn ym Mis 10 yw gwarged gweithredu o £0.924m, sy’n welliant o £0.552m ar y ffigwr gwarged o £0.372m a adroddwyd ym Mis 9.

Mae’r sefyllfa well hon wedi codi’n bennaf oherwydd adolygiad manwl o’r risgiau ym mhortffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant o ganlyniad i’r pandemig, ynghyd â chadarnhad o gyllid ychwanegol o Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru.

Meddai’r Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r Cyngor wedi cyflawni'r canlyniadau cadarnhaol hyn drwy gynllunio ariannol gofalus.  

“Mae’r cymorth ariannol sylweddol sydd ar gael drwy’r Gronfa Caledi, ochr yn ochr â rheoli’r gyllideb yn gadarn ac effeithiol, wedi galluogi'r Cyngor i sicrhau bod gwariant y flwyddyn ariannol gyfredol o fewn y gyllideb y cytunwyd arni.

“Roedd hyn yn cynnwys cyflwyno mesurau’n gynnar yn y flwyddyn er mwyn lliniaru unrhyw orwario posibl.” 

Roedd y mesurau a gyflwynwyd yn cynnwys herio pob gwariant dianghenraid a herio recriwtio i swyddi gwag.

Ychwanegodd y Cynghorydd Banks:

“Mae’r sefyllfa hon yn dangos bod gan y Cyngor fframwaith cynllunio ariannol cadarn, ac mae'n parhau i gryfhau ei waith cynllunio ariannol i gefnogi gwell gwytnwch ariannol yn y dyfodol, er gwaethaf heriau digynsail.”