Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Tlodi Bwyd

Published: 11/03/2021

Food Poverty small.jpgPan fyddant yn cwrdd ddydd Mawrth, 16 Mawrth, bydd Aelodau Cabinet Sir y Fflint yn cydnabod yr ymdrech gymunedol enfawr a wnaed yn ystod y 12 mis diwethaf a hefyd yn croesawu’r cynnydd a wnaed i fynd i’r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd yn Sir y Fflint.  

Mae grwpiau cymunedol wedi chwarae rôl allweddol ers tro i gefnogi preswylwyr diamddiffyn yn Sir y Fflint.  Ers dechrau’r pandemig, mae llawer o grwpiau cymunedol lleol wedi camu i mewn i gynnig cymorth a chefnogaeth i’w cymdogion ac fel Cyngor rydym yn cydnabod ac yn diolch iddynt am y gwaith maent wedi’i wneud ac yn parhau i’w wneud. 

Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn asgwrn cefn y gefnogaeth gymunedol hon drwy gydol y pandemig a gyda chefnogaeth wedi’i lleoli’n aml sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu cymuned ac wedi dod â phobl gyda’i gilydd.  

I gyfannu hyn, mae Sir y Fflint wedi bod yn datblygu’r rôl mae’n ei chwarae i gefnogi ei bobl leol ac wedi bod yn gweithio tuag at weithredu rhaglenni bwyd cynaliadwy hirdymor; gall grwpiau cymunedol fod yn bartneriaid allweddol yn hyn.  

Mae’r Cyngor yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi hyn ac yn credu, wrth symud ymlaen, y gallwn weithio gyda’n gilydd i gynnig math o gefnogaeth fwy cyfan a chynaliadwy sydd nid yn unig yn mynd i’r afael â thlodi bwyd ond yn ymgysylltu ac yn ymateb i faterion cymdeithasol ehangach fel cefnogaeth les, gwiriadau budd-daliadau, cyngor ar dai a llawer mwy. 

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:

“Mae eleni wedi cyflwyno heriau sylweddol, fodd bynnag yn hytrach nag atal cynnydd maent wedi creu cyfleoedd sydd wedi ein galluogi ni i greu effaith gadarnhaol a chaniatáu i ni ddod â rhai o uchelgeisiau’r dyfodol ar gyfer cyflawni a thrawsnewid busnes.”

Mae ein cyflawniadau hyd yma wedi cynnwys: 

  • Rhaglen fwyd “Rhannu eich Cinio” (2018 a 2019) mae pob un wedi darparu miloedd o brydau i blant yn ystod y cyfnodau gwyliau hyn. 
  • Cinio pecyn wedi’i ddarparu i gartrefi plant nad oedd yn gallu cael mynediad i’w prydau ysgol am ddim oherwydd COVID-19, yna taliadau uniongyrchol wedi eu cyflwyno wnaeth barhau yn ystod gwyliau’r ysgol.  
  • Cefnogaeth i breswylwyr diamddiffyn ac sy’n gwarchod eu hunain yn ystod cyfnod clo gyda bocs bwyd wythnosol yn cael ei gludo, wnaeth barhau mewn un ffordd neu’r llall ar ôl i’r cyfnod clo ddod i ben.  
  • Datblygu peilot popty araf i gwrdd a gweithio gyda’r teuluoedd, deall eu perthynas gyda bwyd i annog teuluoedd i goginio bwyd ffres gyda’i gilydd a bwyta gyda’i gilydd.    Cafodd y rhaglen hon ei gohirio oherwydd COVID-19 ond bydd yn dechrau gynted ag y bydd y sefyllfa bresennol wedi gwella.

Parhaodd y Cynghorydd Mullin:

“Rwy’n falch iawn o gyfrannu fel Aelod Cabinet i gefnogi’r gwaith hwn, ar adegau mae wedi bod yn heriol i’n staff a gwirfoddolwyr ond maent wedi bod yn benderfynol i wneud cyfraniad a gwahaniaeth i bobl Sir y Fflint. 

“Rydym hefyd eisiau adeiladu ar ein perthynas gyda’n grwpiau cymunedol lleol sydd yn gwneud gwaith rhagorol.  Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn gynnig cefnogaeth ehangach a chynnig y cyfleoedd gorau posibl i’n preswylwyr.”