Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae diwrnod y cyfrifiad wedi cyrraedd

Published: 15/03/2021

Census-2021-Web.jpgMae 21 Mawrth ar gyrraedd ac mae Cyfrifiad 2021 ar ei anterth yn Sir y Fflint.

Mae'r llythyrau, gyda'ch codau mynediad unigryw, wedi cael eu postio ac rydym ni wedi dechrau cael ymatebion yn barod.

“Bydd cyfrifiad llwyddiannus yn helpu i roi'r darlun gorau o anghenion pawb sy'n byw yng Nghymru a Lloegr,” meddai Iain Bell, y dirprwy ystadegydd gwladol yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol. 

“Mae'n ein helpu i ddeall yr hyn sydd ei angen ar ein cymdeithas nawr, a'r hyn mae'n debygol y bydd ei angen arni yn y dyfodol. Rydym wedi cael ymateb gwych hyd yn hyn, gyda chynifer ohonoch yn llenwi'r holiadur ar eich gliniaduron, eich ffonau a'ch cyfrifiaduron. 

“Dim ond 10 munud fesul unigolyn mae'n ei gymryd i gwblhau'r cyfrifiad ac os na allwch chi fynd ar lein, mae ffurflenni papur ar gael i'r rhai sydd eu hangen. Nawr yw'r amser i chi adael eich ôl ar hanes.”

Gan weithredu yn unol â chanllawiau diweddaraf y Llywodraeth ar COVID-19, bydd swyddogion maes yn gweithio ledled y wlad i gysylltu â'r rhai nad ydynt wedi ymateb. Byddant yn cynnig help a chyngor i'r rhai sydd eu hangen. Byddant hefyd yn atgoffa pobl bod yn rhaid iddynt gwblhau'r cyfrifiad yn ôl y gyfraith.

Y cyfrifiad hwn yw'r un mwyaf cynhwysol eto. Gall pawb nodi eu hunaniaeth fel y dymunant gan ddefnyddio'r cyfleuster chwilio-wrth-deipio ar lein a'r opsiynau i ysgrifennu ateb ar yr holiadur papur os oes angen.

Mae'r cyfrifiad yn cynnwys cwestiynau am eich rhyw, eich oedran, eich gwaith, eich iechyd, eich addysg, maint eich cartref a'ch ethnigrwydd. Ac, am y tro cyntaf, bydd cwestiwn yn gofyn i bobl a ydynt wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, yn ogystal â chwestiynau gwirfoddol i'r rhai sy'n 16 oed a throsodd am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.

Yng Nghymru, bydd cwestiwn penodol i gartrefi am eu sgiliau Cymraeg hefyd. A gall y rhai sy'n dymuno cwblhau'r cyfrifiad yn Gymraeg wneud hynny ar lein ac ar bapur. Mae botymau "Cymraeg" ac "English" er mwyn gallu newid rhwng yr ieithoedd ar unrhyw adeg ar lein, ac ar bapur gallwch chi ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg ar yr un ffurflen. 

Bydd y canlyniadau ar gael o fewn 12 mis, ond caiff cofnodion personol eu cadw'n ddiogel am 100 mlynedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

I gwblhau eich cyfrifiad, neu i ganfod sut i gael help, ewch i cyfrifiad.gov.uk neu ffoniwch 0800 169 2021.