Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Mae Sir y Fflint yn cefnogi chwarae ar gyfer yr ifanc

Published: 17/03/2021

Children play scheme image.jpgMae tîm Datblygu Chwarae Sir y Fflint wedi bod yn brysur yn gweithio ac yn cynllunio dros y misoedd diwethaf er mwyn sicrhau y gall plant lleol fwynhau cynlluniau chwarae er gwaetha’r sefyllfa heriol ar hyn o bryd.

Mae’r tîm Kicks for Kids o fewn Datblygu Chwarae wedi bod yn weithgar ers mis Ionawr yn Ysgol Maes Hyfryd. 

Ac mae’r tîm wedi gweithio’n galed i feithrin hyder ac ymddiriedaeth.  Mae hyn wedi ei gyflawni drwy gefnogaeth Datblygu Chwarae mewn canolfannau cydnerthu ysgolion yn ystod y cyfnod clo cyntaf a rhaglen cynllun chwarae’r haf yn y Sir yn ystod 2020.  

Wrth i ni baratoi ar gyfer y Pasg, mae’r tîm yn falch iawn o fod yn paratoi i gynnig darpariaeth chwarae yn ystod gwyliau’r Pasg ar y dyddiau canlynol:

Dydd Llun 29 Mawrth

Dydd Mawrth, 30 Mawrth

Dydd Mercher 31 Mawrth

Dydd Iau 1 Ebrill

Dydd Mawrth 6 Ebrill

Dydd Mercher 7 Ebrill

Dydd Iau 8 Ebrill

Dydd Gwener 9 Ebrill 

Cei Connah, Central Park - 10:30am - 12:00 pm (Sesiynau wedi eu hariannu gan Gyngor Tref Cei Connah)  

Ardal chwarae Holway, Meadowbank – 1:30 pm -3:00pm. (Ariennir y sesiynau gan Grant Cyfleodd Chwarae Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru)

Yn dilyn hyn, ar fore Sadwrn (o 17 Ebrill) hyd at wyliau’r haf yn Holway (Ariennir y sesiynau gan Grant Cyfleodd Chwarae Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru)

10:00am - 11.30pm i gyflwyno Clwb Brecwast ‘Prosiect Creu Tegwch’

Am fwy o fanylion neu i ymuno, cysylltwch â Janet Roberts ar Janet.Roberts2@flintshire.gov.uk neu 07518 602614.

SYLWER FOD CYN-GOFRESTRU YN HANFODOL AR GYFER HOLL SESIYNAU CHWARAE.

Hefyd, mae recriwtio ar gyfer cynllun chwarae’r haf wedi cychwyn ar-lein.  I ymgeisio:

Goruchwyliwr 

Aelod Tîm 

Mae’n argoeli’n dda ar gyfer rhaglen cynllun chwarae’r haf 2021 yn y Sir a bydd yn gyfle gwych i blant ledled y sir. Darperir mewn partneriaeth â chynghorau tref a chymuned lleol, Llywodraeth Cymru ac Urdd Gobaith Cymru. Rydym yn recriwtio i’n timau cymunedol neu i weithio fel Bydi ar gyfer prosiect chwarae cynhwysol P.A.L.S. (Cefnogaeth Chwarae a Hamdden).

Meddai'r Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Yn Sir y Fflint rydym yn falch iawn o’n cynlluniau chwarae dros yr haf sydd yn rhoi’r cyfle i blant gael amser, rhyddid a’r gallu i chwarae allan yn lleol, cwrdd â hen ffrindiau a gwneud rhai newydd.  Mae ein tîm Datblygu Chwarae gwych wedi cael caniatâd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno’r ddarpariaeth chwarae o fewn rheoliadau Covid.  Mae ganddyn nhw brofiad o’i reoli’n ddiogel ac, yn bwysicaf oll, mae’n cefnogi plant diamddiffyn.”