Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod o Fyfyrio

Published: 22/03/2021

Ar ddydd Mawrth, 23 Mawrth bydd munud o dawelwch am 12 dydd a gwylnos stepen drws cenedlaethol am 8.00pm, i ffurfio rhan o’r diwrnod o fyfyrio i nodi blwyddyn ers cyfnod clo cyntaf y Deyrnas Unedig, pan fydd y rhai a fu farw yn y pandemig yn cael eu cofio.

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal munud o dawelwch, ac ar y cyd â nifer o brif adeiladau a chofebion ar draws y sir bydd Theatr Clwyd yn cael ei oleuo yn felyn yn ystod y nos.

 Dywedodd y Cynghorydd Marion Bateman, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint;

 

  “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn i ni wrth i anferthedd her y pandemig ddod yn glir. Bydd nifer ohonom wedi cael ein heffeithio gan golled trasig perthynas, ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr agos. Mae cymaint o sefyllfaoedd lle nad yw pobl wedi gallu dweud hwyl fawr i’w hanwyliaid yn iawn ac i ddod ynghyd i roi cysur a chymorth sy’n angenrheidiol i ni gyd i ddeall ac adfer o drasiedïau o’r fath.

 

 Mae’n briodol iawn ein bod ni’n cymryd amser i fyfyrio ar ein siwrnai trwy’r pandemig, cofio’r rhai sydd wedi ein gadael ni yn ystod y cyfnod a sut allwn ni oll helpu ein gilydd i symud ymlaen yn y misoedd i ddod.”

 

 Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts;

 

  “Heb amheuaeth, mae ein bywydau bob dydd wedi cael ei amharu ac wedi newid yn sylweddol dros y deuddeg mis diwethaf. Rydym ni oll wedi aberthu nifer o’n rhyddid yr oeddem yn cymryd yn ganiataol. Ar 23 Mawrth, byddwn yn cofio’r rhai sydd wedi colli’r frwydr yn erbyn y pandemig a’r tor calon mae nifer o deuluoedd wedi dioddef.

 

  “Rhaid i ni hefyd fyfyrio ar, a chanmol ymdrechion, sgiliau a phenderfyniad y rhai sydd wedi ymdrechu i’n cadw’n ddiogel a chadw gwasanaethau hanfodol i redeg yn ystod y cyfnod hwn. Mae ein gwasanaethau iechyd, gwasanaethau brys a gofalwyr wedi gweithio’n ddiflino i ofalu amdanom a’n diogelu ni. Mae staff y cyngor, y rheng flaen a gwasanaethau cefnogi wedi rhoi cymaint o ymdrech ac ymrwymiad i sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol rydym yn eu darparu yn cael eu cynnal. Mae ein hysgolion, colegau a phrifysgolion wedi bod yn ddiflino yn eu penderfyniad i gynnal gwasanaethau a chymorth addysg ar gyfer ein plant a phobl ifanc. Mae ymdrechion anhygoel ein gweithwyr siop a gyrwyr cyflenwi ac eraill wedi ein galluogi i barhau gyda’n bywydau dyddiol.

 

 “Rydym wedi gwneud cynnydd o ran ein dealltwriaeth o’r coronafeirws yn y misoedd diwethaf a’r hyn sydd angen i ni ei wneud i gadw’n gilydd yn ddiogel. Wrth i ni symud yn agosach at lacio’r cyfyngiadau a dychwelyd i lefel o normalrwydd, rwan yw’r adeg i sicrhau ein bod yn parhau i ddilyn y rheolau.”