Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Busnes o Sir y Fflint yn diolch i’r gymuned am eu cefnogaeth yn ystod y clo mawr 

Published: 13/04/2021

Roedd siopa’n lleol yn allweddol i lawer o fusnesau trwy gydol y pandemig COVID, a dim ond oherwydd cefnogaeth eu cymunedau lleol y llwyddodd rhai ohonynt i oroesi.

Ar ddiwedd y clo mawr cyntaf, gwelodd llawer o fusnesau fod arferion cwsmeriaid wedi aros yr un fath, a’u cwsmeriaid yn dal i brynu gennyn nhw yn lle dychwelyd at y cwmnïau cadwyn cenedlaethol.

Yn ôl Barclaycard, dewisodd llawer o bobl brynu oddi wrth gwmnïau lleol yn ystod y pandemig, gyda 57% yn mynegi dymuniad i gefnogi rhagor ar fusnesau lleol sy’n agos atynt o ganlyniad i’r cyfyngiadau.

Mae perchnogion siopau yn diolch i’w cymunedau am eu cymorth dros y 12 mis diwethaf ac yn annog pobl i barhau i’w cefnogi fel o’r blaen.

KFP_8642.JPGMae Ben Hartley yn rheolwr siop deuluol Hartley’s sy’n gwerthu ffrwythau a llysiau ar stryd fawr Treffynnon. Fe ddechreuodd y busnes bedair blynedd yn ôl wedi iddo gael ei ysbrydoli gan ei daid oedd yn gwerthu cynnyrch mewn marchnadoedd.

Meddai:

"Rydym yn hynod ddiolchgar i’r cyhoedd am eu cefnogaeth. Mae rhywbeth a ddechreuodd i rai pobl fel cam dros dro bellach wedi datblygu i fod yn ddewis cyntaf.

"Mae pob archeb yn bwysig, a phrynu gyda ni yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Er bod archfarchnadoedd mawr o’n hamgylch yn codi prisiau is, mae pobl wedi gweld ein bod ni yn cynnig ansawdd gwell a mwy o amrywiaeth.

"Ar ddechrau’r clo mawr, roedd gennym 200 o archebion y dydd ac roeddem yn danfon cynnyrch i gwsmeriaid 15 i 16 gwaith y dydd, o gymharu â chwech o weithiau cyn y cyfnod COVID. Bu ein tîm bychan yn gweithio’n galed o 4am tan 9pm dros gyfnod y clo i wneud yn siwr fod pobl yn cael eu harchebion.

"Roedd yr ysbryd cymunedol i’w weld yn glir hefyd yn ystod y ffocws ar brydau ysgol am ddim. Rhoesom nifer o flychau ffrwythau a llysiau am ddim tu allan y siop i helpu teuluoedd oedd mewn trafferthion. Mewn ymateb, daeth cwsmeriaid i’r siop a gadael arian ger y til i gefnogi’r gwaith.

"Ein nod oedd llwyddo i dalu’r rhent gyda’n gwasanaeth danfon ffrwythau a llysiau, ac fe lwyddom i wneud hynny, diolch i bawb a’n cefnogodd."

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Ben yn annog trigolion Sir y Fflint i barhau i siopa gyda busnesau lleol fel y bydd y cyfyngiadau Covid yn cael eu llacio, gan fod cymaint o fasnachwyr yn ymladd am eu heinioes ariannol.

Ychwanegodd:

"Nid yw cwmnïau lleol yn ôl ar eu traed hyd yma. Mae gwir angen i bobl barhau i brynu oddi wrth gwmnïau lleol annibynnol er mwyn helpu perchnogion a staff sy’n gweithio mor galed i barhau tu hwnt i’r pandemig.

"Mae prynu efo ni hefyd yn helpu busnesau eraill lleol. Rydym yn falch o fedru hyrwyddo brandiau Sir y Fflint, er enghraifft daw ein tatws o Faesglas.

"Nid dim ond ffrwythau a llysiau sydd gennym ar werth. Edrychwn ymlaen at groesawu pobl yn ôl i’n ystafell de gyda’i bwydlen caffi amrywiol, y gwyddom y bydd pobl wrth eu bodd yn ei blasu.

"Mae ein neges yn syml: da chi, daliwch ati i siopa’n lleol. Mae’n gwneud mwy o wahaniaeth nag a dybiwch."

KFP_8587.JPG