Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Busnesau Sir y Fflint yn paratoi i ailagor ar ôl cyflwyno mesurau diogelwch COVID 

Published: 20/04/2021

KFP_8438.JPGGyda’r cyfyngiadau Covid yn cael eu llacio ymhellach, a lletygarwch awyr agored yn cael ailagor tua diwedd Ebrill, bydd rhai o drigolion Sir y Fflint yn poeni am eu diogelwch wrth fynd allan ac o amgylch unwaith eto.

Mae busnesau ym mhob rhan o’r sir yn awyddus i dawelu meddwl y cyhoedd trwy egluro eu bod wedi mynd tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir er mwyn cadw pawb yn ddiogel pan fydd eu drysau’n agor unwaith eto.

Bu llawer yn addasu eu heiddo yn ystod y pandemig i wneud yn siwr fod pawb yn dilyn y canllawiau cadw pellter ac yn defnyddio offer diogelwch personol (PPE).

Un o brif flaenoriaethau unigolion a theuluoedd fydd aros yn ddiogel pan fydd cymysgu tu fewn a thu allan yn digwydd unwaith eto. Ac mae llawer o fusnesau yn awyddus iawn i wybod a fydd newid mewn ymddygiad cwsmeriaid yn effeithio ar eu masnach a’u gwerthiant.

Meddai Anthony Griffiths, rheolwr gwesty 17fed ganrif y Crown Inn yn Licswm:

"Rydym oll yn paratoi i ailagor cyn diwedd y mis hwn ac yn edrych ymlaen at groesawu pobl unwaith eto.

"Mae’r Clo Mawr wedi rhoi amser inni gymryd cam yn ôl ac edrych beth sydd angen ei newid i gadw pobl yn ddiogel. Gallwn sicrhau pawb mai gwarchod eu hiechyd a lles fydd ein blaenoriaeth gyntaf un. 

"Rydym wedi manteisio i’r eithaf ar archways bwaog y dafarn a gosod rhagor o fyrddau oddi tanynt fel y gallwn gadw mwy o bellter rhwng cwsmeriaid ac osgoi gorfod gwrthod pobl oherwydd prinder seti.

"Byddwn hefyd yn annog cwsmeriaid i ddefnyddio’r peiriannau diheintio dwylo a osodwyd ym mhob rhan o’r dafarn, y codau QR ar gyfer tracio ac olrhain a’r drefn unffordd i gadw pellter cymdeithasol.

"Unwaith y cawn gynnig gwasanaeth tu fewn, byddwn yn cyfyngu’r nifer i 30 yn lle’r 50 arferol er mwyn helpu i gadw pellter cymdeithasol."

Cyn y pandemig, roedd y Crown Inn yn arfer cynnal barbeciws cerddorol rheolaidd gyda’r elw’n mynd at achosion da, a hefyd yn cynnal cwis bob nos Fawrth.

Mae Anthony yn gobeithio y gall ef a’i staff ailgychwyn y digwyddiadau hyn er mwyn codi rhagor o arian at achosion da yn ogystal â chynnig adloniant dros y misoedd i ddod.

Ychwanegodd:

"Roedd y nosweithiau cwis yn arbennig o boblogaidd ac yn sbardun i gyfeillion a theuluoedd ddod ynghyd i fwynhau cwmni ei gilydd. 

"Yn ystod y 12 mis diwethaf, rydym wedi ceisio cefnogi’r gymuned a dangos y gall pobl ymddiried ynom i warchod eu iechyd a lles.

"Er enghraifft, crewyd siop yn y dafarn lle buom yn gwerthu bara a llefrith ynghyd â selsig a bacwn o siop cigydd Kennedy’s yn Nhreffynnon. Fe welodd ein cwsmeriaid drostynt eu hunain y camau y gallwn eu cymryd i’w cadw’n ddiogel.

"Bu’r siop yn wasanaeth allweddol i rai ac felly rydym wedi penderfynu ei chadw ar agor pan ddaw’r clo mawr i ben."