Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Nodyn Atgoffa Cofrestru i Bleidleisio

Published: 14/04/2021

Atgoffir preswylwyr lleol fod ganddyn nhw tan hanner nos ddydd Llun, 19 Ebrill i gofrestru i bleidleisio a tan 5.00pm ar ddydd Mawrth, 20 Ebrill i wneud cais am bleidlais bost mewn pryd ar gyfer etholiadau’r Senedd a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, cyn bo hir. Y diwrnod pleidleisio ar gyfer yr etholiadau yw dydd Iau, 6 Mai.

Mae gan breswylwyr tan 5.00pm ddydd Mawrth 27 Ebrill i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy – i rywun bleidleisio ar eu rhan – fel dewis arall. 

Mae’n bosibl y bydd pleidleisiau drwy ddirprwy mewn argyfwng ar gael ar ôl y dyddiad cau ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy tan 5.00pm ar 6 Mai, mewn amgylchiadau esgusodol arbennig yn unig.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol (http://www.electoralcommission.org.uk/cy)

Dywedodd y Swyddog Canlyniadau, Colin Everett: 

“Yn ddiweddar mae Cyngor Sir y Fflint wedi anfon cardiau pleidleisio at etholwyr. Os nad ydych wedi derbyn cerdyn pleidleisio cysylltwch a’r Swyddfa Etholiadau ar 01352 702300 neu e-bostiwch register@flintshire.gov.uk i wirio a ydych wedi eich cofrestru i bleidleisio. Os nad ydych wedi eich cofrestru eto gallwch fynd ar y system ar-lein yn www.gov.uk/register-to-vote.

 “Gall y Tîm Etholiadau gynorthwyo preswylwyr yn gyflym gyda’u ymholiadau. Os ydych eisoes wedi ymateb i’r Canfasiad Cofrestr Etholwyr Blynyddol i gadarnhau neu ddiweddaru eich manylion, a’ch bod wedi cofrestru’n unigol drwy roi eich dyddiad geni a’ch Rhif Yswiriant Gwladol (os nad ydych wedi cofrestru’n barod), yna does dim angen cofrestru. 

 “Cysylltwch â’r Tim Etholiadau os ydych yn dal angen cofrestru.”