Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaredu Dyfeisiau Prawf Llif Unffordd, Gorchuddion Wyneb a Menig yn Ddiogel

Published: 19/04/2021

Keeping Flintshire safe.jpg

Wrth i ni barhau i gymryd camau i atal lledaeniad COVID-19, mae’r defnydd o Ddyfeisiau Prawf Llif Unffordd gartref yn cynyddu ac fe hoffai Cyngor Sir y Fflint annog preswylwyr i gael gwared ar Ddyfeisiau Prawf Llif Unffordd yn ddiogel ac yn gyfrifol ar ôl eu defnyddio.

Defnyddir Dyfeisiau Prawf Llif Unffordd i ganfod pobl sydd â COVID-19 ond sydd heb symptomau. Gan ddefnyddio swab i gymryd sampl o gefn y gwddf a’r trwyn, mae’r ddyfais yn canfod proteinau sy’n bresennol pan fo gan rywun COVID-19. 

Wrth ddefnyddio Dyfeisiau Prawf Llif Unffordd gartref, dilynwch y canllawiau isod:  

  • PEIDIWCH â rhoi’r Dyfeisiau Prawf Llif Unffordd mewn cynwysyddion ailgylchu; 
  • Os yw’r prawf yn NEGYDDOL, rhowch y ddyfais yn eich bin gwastraff (bin du);  
  • Os yw’r prawf yn BOSITIF, rhowch y ddyfais mewn bag diogel a chadw’r bag mewn man diogel am 72 awr.  Yn dilyn hyn, rhowch y bag yn eich bin gwastraff (bin du).

Os yw’r prawf yn bositif bydd angen i chi gydymffurfio gyda chanllawiau hunan-ynysu cyfredol.  Yn ystod y cyfnod hunan-ynysu yma: 

  • PEIDIWCH â rhoi unrhyw hancesi papur, llieiniau tafladwy na masgiau (os ydych chi’n eu gwisgo) yn y cynwysyddion ailgylchu – rhowch y rhain yn eich bin du YN UNIG; 
  • Dilynwch y canllawiau cenedlaethol a rhowch eich gwastraff i’r ochr a pheidiwch â rhoi eich bin gwastraff allan i’w gasglu am o leiaf 72 awr; 
  • Sicrhewch fod eitemau ailgylchu fel gwydr, caniau a phlastigau yn cael eu golchi’n drylwyr a’u sychu cyn eu rhoi allan i’w casglu; 
  • Dylech lanhau handlenni’r biniau / cynwysyddion cyn eu rhoi allan i’w casglu; 
  • Peidiwch ag anghofio golchi eich dwylo cyn i chi roi eich bin a’ch cynwysyddion ailgylchu allan, ac eto yn syth ar ôl i chi ddod â nhw’n ôl i mewn. 

Hefyd, hoffem atgoffa pobl i beidio â rhoi menig a masgiau untro yn y cynwysyddion ailgylchu. Os ydych yn yr awyr agored, dylech gael gwared arnynt yn ddiogel mewn bin gwastraff cyffredinol neu fynd â nhw adref gyda chi a’u rhoi yn eich bin du. 

Gyda’n gilydd gallwn ni i gyd helpu i gadw’n gilydd yn ddiogel.