Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cais Cyllid Llywodraeth Cymru

Published: 29/01/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint heddiw, (dydd Gwener 29 Ionawr), wedi cyflwyno ceisiadau i Lywodraeth Cymru am arian i gyflwyno ystod o welliannau diogelwch y ffyrdd a chludiant ar draws y Sir, Mae deg o gynlluniau arfaethedig wedi cael eu nodi yn dilyn adolygiad a dadansoddiad o ddata damweiniau a gofnodwyd ac archwiliadau diogelwch. Sef: - Uwchraddior groesfan Sebra presennol yn groesfan Pelican ger Ysgol Trelawnyd - Uwchraddior groesfan Sebra presennol yn groesfan Pelican yn Heol yr Eglwys, Bwcle - Adolygur trefniadau parcio a threfniadau diogelwch traffig cyffredinol y tu allan i Ysgol Gynradd Golftyn, Cei Connah, Ysgol Bryn Coch, Yr Wyddgrug ac Ysgol Gynradd Sandycroft gan gynnwys darparu terfynau cyflymder 20mya gorfodol y tu allan i bob ysgol - Gwelliannau Diogelwch Priffyrdd a gwaith trin llwybr ar hyd yr A5104 rhwng Penymynydd a Warren Hall - Gwelliannau Diogelwch Priffyrdd a gwaith trin llwybr ar y A5026 Lloc, ger Tafarn y Rock Inn - Gwelliannau Diogelwch Priffyrdd ar Ffordd Lerpwl, Bwcle yn ei chyffordd â Ffordd Alltami ger Ysgol Uwchradd Elfed - Gwelliannau i safleoedd bws ar hyd y Rhwydwaith Bysiau Craidd arfaethedig newydd drwy wella arosfannau, cyrbau, llwybrau troed, goleuadau a darparu arwyddion clir ac amserlenni bysiau ym mhob un or safleoedd, er mwyn darparu cysylltiadau effeithiol i drefniadau Cludiant Cymunedol lleol yn y dyfodol - Gwell trefniadau mynediad i deithio egnïol ar hyd Shore Road Gronant - Darparu cyswllt llwybr troed rhwng Bryn Awelon, Yr Wyddgrug a Bryn y Baal. - Cronfeydd i sefydlu cynlluniau peilot Cludiant Cymunedol mewn dwy ardal or Sir Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: Maer cynlluniau wedi cael eu dewis yn dilyn asesiadau o bob maes syn peri pryder ar Rwydwaith Priffyrdd y Cyngor. Maer asesiadau wedi dilyn prosesau y cytunwyd arnynt yn flaenorol gan y weinyddiaeth i sicrhau didwylledd a thryloywder ac i sicrhau bod y cynlluniau sydd fwyaf angen sylw yn cael eu cyflwyno. Mae unwaith eto yn amlygu pwysigrwydd rhwydwaith priffyrdd effeithiol a diogel ir Cyngor hwn ac rwy’n disgwyl yn eiddgar am ganlyniad y ceisiadau i Lywodraeth Cymru ar gyfer pob un or cynlluniau yr ydym wedi’u cyflwyno Disgwylir canlyniad y ceisiadau yn gynnar yn y flwyddyn ariannol newydd.