Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cronfa Benthyciadau Canol Tref Sir y Fflint

Published: 11/05/2021

Money small.jpgMae Cyngor Sir y Fflint yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb ar gyfer cyllid benthyciadau ar gyfer prosiectau adfywio canol tref. Mae cyllid yn cael ei ddarparu trwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a chaiff ei weinyddu gan Gyngor Sir y Fflint. Mae’r benthyciad wedi’i anelu at berchnogion eiddo canol tref a busnesau sy’n meddiannu eiddo canol tref. 

Mae’r math o brosiect y gallai’r cynllun benthyciadau hwn eu helpu yn cynnwys: dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd; mynd i’r afael ag inswleiddiad gwael a darpariaeth gwres mewn adeiladau canol tref; symud datblygiadau sydd wedi’u hoedi ymlaen sy’n barod i ddechrau ar y safle ond sydd â bwlch o ran eu cyllid, a hwyluso mynediad i gyllid arall. 

Dywedodd Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd ac Economi Cyngor Sir y Fflint:

“Bydd y benthyciadau hyn yn helpu ag adferiad ein canol trefi yn dilyn effaith Covid-19. Byddan nhw’n darparu help ariannol a all ganiatáu i welliannau a datblygiadau gael eu cyflawni lle na fyddent wedi digwydd fel arall.”

Y gyfradd llog arfaethedig ar gyfer y benthyciad yw sero y cant ar gyfer cyfnod y benthyciad ac mae’n amodol ar ffi weinyddu. Bydd amodau’r benthyciad a’r amserlen ad-dalu ar gyfer yr arian a gaiff ei fenthyg yn adlewyrchu gofynion pob prosiect. Gall benthyciadau fod rhwng dwy a saith mlynedd o ran hyd. Cyfanswm maint y gronfa i’w defnyddio yng nghanol trefi Sir y Fflint yw £840,000. Yn amodol ar gapasiti’r gronfa, bydd y ddarpariaeth ar gael ar gyfer y 15 mlynedd nesaf. Wrth i hen fenthyciadau gael eu had-dalu, caiff cynigion newydd eu hasesu ar gyfer cyllid.

I ddechrau, dylai unigolion sydd â diddordeb ym manylion y cynllun anfon crynodeb o’u cynigion a’u manylion cyswllt at: regeneration@flintshire.gov.uk.