Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prosiect Parc Gwepra

Published: 02/02/2016

Mae gwirfoddolwyr wedi ymuno yn ddiweddar gyda Cheidwaid Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint i gynnal amrywiaeth o dasgau ym Mharc Gwepra dros gyfnod y gaeaf. Bydd y gwaith yn cynnwys clirio rhannau o lawr-geirios ymledol a gwneud gwaith cynefin daearol o gwmpas pyllau Madfallod Dwr Cribog Mawr ac adrannau coedlan o goed cyll. Maer gwirfoddolwyr yn dod o ARCH, CAIS a Phrifysgol Glyndwr Wrecsam ac maer prosiect wedi bod yn bosibl drwy fenter Gradd o Gyfrifoldeb Prifysgol Glyndwr (ADOR), a ariennir gan y Loteri Genedlaethol. Dywedodd Lucy Jones, Swyddog Profiad Gwaith y Brifysgol a Chydlynydd Prosiect ADOR: “Maer prosiect gwirfoddoli wedi’i anelu at gryfhau galluoedd a hyder ein myfyrwyr ar gymdeithas ehangach drwy greu cyfleoedd profiad gwaith yn y gymuned.” Meddai Ramsey Morsy, Hwylusydd Iechyd a Lles yn ARCH: “Trwy weithgareddau fel hyn, gallwn gymell ein cwsmeriaid i ddysgu sut i wneud penderfyniadau, gosod nodau ac ymdopi â straen ac emosiynau. Bydd gweithio ochr yn ochr â Cheidwaid Cefn Gwlad profiadol hefyd yn rhoir gallu iddynt ddysgu amrywiaeth o sgiliau newydd ac rwyf yn falch bod cynifer on cwsmeriaid wedi bod yn awyddus i fanteisio ar y cyfle hwn.” Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr Amgylchedd: “Rwyn falch iawn o gael cefnogir fenter newydd hon o fewn Parc Gwepra. Rwyf yn sicr y bydd pob un or gwirfoddolwyr syn ymwneud âr prosiect hwn yn cael profiad amhrisiadwy. Bydd diwrnodau Prosiect Gwirfoddolwyr yn cael eu cynnal hyd at ddiwedd mis Mawrth. Nodyn i Olygyddion Mae ARCH yn ymroddedig i wella iechyd a lles pobl a chymunedau. Maen darparu gwasanaethau cyfiawnder troseddol, triniaeth breswyl a chymunedol ar draws Cymru, Gogledd Lloegr a Chanolbarth Lloegr. ARCH ywr contractwr arweiniol yn y Bartneriaeth Affinity, sydd wedi cael ei benodi i ddarparur Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Integredig Cyfiawnder Troseddol Gogledd Cymru am hyd at bum mlynedd gan Swyddfar Comisiynydd Heddlu a Throsedd (OPCC) ar gyfer Gogledd Cymru ar Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (NOMS) yng Nghymru. Mae ARCH hefyd yn gweithio gyda theuluoedd a chymunedau lleol ochr yn ochr â darparwyr gwasanaethau eraill fel y Ganolfan Byd Gwaith, Canolfannau Cyngor ar Bopeth a grwpiau cymunedol lleol.