Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arosfa – Model Gwasanaeth 

Published: 14/05/2021

Pan fyddant yn cyfarfod ar 18 Mai, bydd gofyn i aelodau'r Cabinet gydnabod y cynnydd a wnaed yn Arosfa yn yr Wyddgrug a chefnogi'r cyfle i ddarparu cefnogaeth hyblyg ychwanegol ar gyfer hyd at bedwar o blant a'u teuluoedd, gyda'r nod o gadw'r teuluoedd gyda'i gilydd ac yn agosach at eu cartrefi. 

Mae Arosfa yn wasanaeth sefydledig sy’n darparu gwyliau byr dymor a seibiant ar gyfer plant gydag anableddau.  Mae’r adain chwith sydd heb ei defnyddio yn Arosfa wedi’i thrawsnewid i ddarparu dau le ychwanegol yn y cyfleuster.  Mae’r gwasanaeth ychwanegol, dau le newydd, yn ychwaneg i’r ddarpariaeth seibiant cyfnod byr presennol ar gyfer hyd at dri o blant ar yr un pryd.  Gyda’i gilydd, bydd y cynlluniau yn ein galluogi i gefnogi uchafswm o bump o blant ar un tro.

Ers 2012 mae Gweithredu dros Blant wedi llwyddo i ddarparu gwasanaeth gwyliau byr ar gyfer plant anabl yn Arosfa sy’n diwallu ystod eang o ddibenion.  Mae’n rhoi cyfle i bobl ifanc dreulio amser oddi cartref a chymdeithasu y tu allan i’r ysgol gyda ffrindiau mewn modd nad yw plant anabl yn aml yn cael y cyfle i’w wneud.  Mae hefyd yn darparu seibiant angenrheidiol i rieni a gofalwyr. 

Dechreuodd contract presennol Gweithredu dros Blant ym mis Ebrill 2017 i ddarparu gwasanaeth am dair blynedd, gyda'r posibilrwydd o estyniad am hyd at ddwy flynedd.  Mae’r contract yn caniatáu diwygiadau i gynyddu’r gwasanaeth. 

Y cynnig gwreiddiol oedd cynyddu’r capasiti yn Arosfa i dderbyn dau breswylydd hir dymor parhaol.  Byddai hyn yn ychwaneg at y gwyliau byr presennol, ar gyfer hyd at dri o blant. 

Mae’r cynnig newydd yn cydnabod bod nifer o blant / pobl ifanc ar hyn o bryd yn Sir y Fflint lle bo eu lle yn y cartref teuluol yn risg oherwydd eu hanghenion cymhleth ac ymddygiad heriol sy'n gysylltiedig â'u diagnosis.   Mae model amgen hyblyg yn cael ei gynnig ar gyfer y cyfleuster preswyl lle bo gwasanaeth seibiant gofal a rennir ar gyfer uchafswm o bedwar o blant / pobl ifanc yn gallu cael ei ddarparu.  Gellir ystyried lleoliadau hir dymor hefyd ac mae hyn yn golygu bod y gwasanaeth yn gallu ymateb i’r hyn sydd ei angen fwyaf ar y teuluoedd. 

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Mae'r cynnig arloesol yn canolbwyntio ar ganlyniadau cadarnhaol ar gyfer y bobl ifanc hyn.  Os yw pedwar plentyn yn gallu parhau i fyw yn y cartref teuluol, byddant yn cadw eu lle presennol / lleol yn eu hysgol.  Mae hyn yn well ar gyfer trefn ddyddiol y plentyn ac o ran cysondeb, gan osgoi costau lleoliadau addysgol drud. 

“Bydd yn cynyddu'r capasiti yn Sir y Fflint i gynnig mwy o ddarpariaeth gofal seibiant a chaniatáu hyblygrwydd i'n galluogi i ymateb yn weithredol i'r anghenion dynodedig". 

Mae Gweithredu dros Blant a’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn dymuno treialu’r ymagwedd gan ddechrau yn raddol, gyda’r gwasanaeth yn dechrau ym mis Ebrill 2021 a chyflwyno un plentyn ar y tro cyn cynyddu i gefnogi pedwar plentyn / person ifanc ar ôl 12 mis; mae hyn yn ein galluogi i adlewyrchu, dysgu a bod yn hyblyg yn ein hymagwedd yn seiliedig ar anghenion plant / pobl ifanc a theuluoedd.