Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lliwiaur enfys

Published: 01/02/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint yn codir faner enfys y tu allan i Neuadd y Sir unwaith eto eleni i gefnogi mis hanes pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT) yn ystod mis Chwefror. Maer digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi cyfle i bobl ddysgu mwy am hanes a chyflawniadau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ar mudiad hawliau pobl hoyw a hawliau sifil. Mae hefyd yn amser i gofio’r gwahaniaethu mae llawer wedi ei wynebu ar daith sydd wedi ei wneud tuag at gydraddoldeb LGBT. Dywedodd Sharon Carney, Partner Busnes Arweiniol Adnoddau Dynol: “Mae chwifio’r faner enfys yn bwysig ir Cyngor. Mae chwifior faner drwy gydol mis hanes LGBT yn anfon neges glir ein bod wedi ymrwymo i gydraddoldeb i bawb, o fewn y Cyngor an cymuned ehangach.