Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dysgwch am hanes Sir y Fflint a manteisio ar ddealltwriaeth ddyfnach, medd hanesydd

Published: 27/05/2021

Heritage release photo.JPGMae hanesydd yn Sir y Fflint yn annog trigolion i gloddio i orffennol yr ardal fel rhan o Fis Hanes Lleol a Chymunedol.

Gan fod mis Mai wedi’i ddynodi’n fis i ddathlu hanes rhanbarthol, nid oes amser gwell i ddysgu rhagor am hanesion cyfoethog ac amrywiol trefi a phentrefi’r sir.

Gyda phump o lwybrau treftadaeth yn plethu trwy leoliadau ledled Sir y Fflint, mae gan ddysgwyr ddewis eang o safleoedd hanesyddol i ymweld â nhw.

Meddai’r Dr Miranda Kaufmann, hanesydd sy’n byw yn Sir y Fflint: “Mae mor bwysig dysgu am ein hanes lleol achos ni allwn wybod pwy ydym oni fyddwn ni’n gwybod o ble rydym wedi dod.

“Mae deall yr hyn a fu yn ein galluogi i ddatblygu gwybodaeth a gwerthfawrogiad dyfnach o ble rydym yn byw.

“Mae bod yn ymwybodol o’r haenau o hanes sy’n ein hamgylchynu a sut mae ein hamgylchedd wedi newid dros y canrifoedd, yn creu dimensiwn arall o fwynhad, hyd yn oed ar gyfer rhywbeth mor syml â cherdded i lawr y stryd fawr.

“O drysorau’r Oes Efydd fel mantell aur yr Wyddgrug i gestyll canoloesol sy’n tystio i’r brwydrau rhwng tywysogion Cymru a brenhinoedd Lloegr, i dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal, mae gan Sir y Fflint hanes cyfoethog ac amrywiol. 

“Ac nid yn unig hanes lleol, ond hanes cenedlaethol a byd-eang hefyd: mae brenhinoedd a breninesau o Rhisiart I i’r Frenhines Fictoria wedi ymweld â Ffynnon Wenffrewi; chwaraeodd teulu Mostyn ran allweddol yn y Rhyfel Cartref; a defnyddiwyd copr a gynhyrchwyd yn Nyffryn Maesglas nid yn unig i amddiffyn cyrff llongau cefnforol rhag mwydod y môr ond hefyd i wneud manilau a ddefnyddid i brynu caethweision o Affrica.

“Mae ein llwybrau treftadaeth trefol yn ffordd wych i archwilio gorffennol a phresennol yr ardal; gall unrhyw un fynd ar daith trwy amser trwy gerdded y strydoedd.”

Mae pum llwybr treftadaeth Sir y Fflint ym Mwcle, Cei Connah, Y Fflint, Yr Wyddgrug a Threffynnon yn tynnu sylw at amrywiaeth o wahanol gyfnodau hanesyddol.

Mae’r llwybr yn y Fflint yn dathlu’r holl fathau o waith sydd wedi trawsnewid yr aneddiad dros y canrifoedd ers ei sefydlu gan y Brenin Edward I, tra mae llwybr Treffynnon yn mynd â cherddwyr ar hyd llwybrau crefyddol hynafol a safleoedd bywyd gwyllt.

Anogir y rhai sy’n bwriadu dilyn y llwybrau i lawrlwytho hefyd yr ap Llwybrau Digidol Gogledd-ddwyrain Cymru gan Gadwyn Clwyd, sy’n cynnwys mwy o ddewisiadau a lleoliadau i’w harchwilio yn ogystal â’r llwybrau trefol.

Meddai Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, Amgylchedd ac Economi Cyngor Sir y Fflint: “Mae gan Sir y Fflint hanes cyfoethog ac amrywiol sydd yn mynd yn ôl canrifoedd ac mae’r llwybrau treftadaeth yn enghraifft berffaith o natur yr ardal, sy’n newid o hyd.

“O ryfeloedd y canol oesoedd i’r blaengarwch a’r gwelliannau technolegol yn ystod y chwyldro diwydiannol, mae gan Sir y Fflint rywbeth at ddant pawb waeth beth fo eich diddordeb hanesyddol.

“Mae’r llwybrau treftadaeth trefol yn dangos cymaint y mae gwahanol fannau yn Sir y Fflint wedi datblygu yn ystod ein hanes fel cenedl, a byddant yn eich galluogi i gerdded yn ôl troed miloedd lawer o bobl sydd wedi creu hanes yr ardal.”

Oes gennych chi hoff le yn Sir y Fflint yr hoffech ei rannu? Ewch i dudalennau Archwilio Sir y Fflint ar Facebook (@exploreflintshire) ac Instagram (@explore_flintshire) a rhannwch eich dewisiadau.