Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth 

Published: 10/06/2021

Mae bioamrywiaeth yn parhau i gael ei golli o ganlyniad uniongyrchol i effeithiau dynol, drwy golli a diraddio cynefinoedd, gorecsbloetio, llygredd, newid yn yr hinsawdd, a rhywogaethau estron goresgynnol. 

Lluniwyd Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth cyntaf y Cyngor (2016-2019) mewn ymateb i’r dyletswydd gwella bioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Dywedodd Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd ac Economi Sir y Fflint:

“'Cefnogi Natur yn Sir y Fflint' yw ail Gynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth y Cyngor, ac mae’n cwmpasu’r cyfnod o 2020-2023. Mae’r cynllun newydd hwn yn parhau â’r gwaith da blaenorol o gyflawni ym maes bioamrywiaeth, ac mae’n parhau â’r gwaith o wneud bioamrywiaeth yn ystyriaeth ar draws pob adran. 

“Er mwyn ymateb i’r her i wyrdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth, mae’n hanfodol ein bod yn gweithredu nawr, ac yn sicrhau ein bod fel awdurdod lleol yn diwallu anghenion y presennol heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.”

Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried y Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 15 Mehefin.