Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llyfrgell fodern newydd i agor yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy - llyfrgell hunan-wasanaeth gyntaf Sir y Fflint

Published: 01/02/2016

Bydd newidiadau’n cael eu gwneud ir rhwydwaith llyfrgelloedd yn ystod misoedd Chwefror a Mawrth. Maer gwasanaeth yn gwneud y newidiadau hyn yn unol â Rheoliadau Cynllun Tymor Canolig ar gyfer Llyfrgelloedd a gytunwyd gan y Cabinet ym mis Mawrth 2015. Ei nod yw ceisio sicrhau rhwydwaith llyfrgelloedd cynaliadwy gan greu arbedion ariannol o 30% ar yr un pryd dros gyfnod o dair blynedd. Mae swyddogion wedi bod yn gweithio gyda chymunedau i sicrhau fod y newidiadau hyn yn cael eu rheoli mor esmwyth â phosibl. Llyfrgell Glannau Dyfrdwy Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg a Ieuenctid, Rydym yn falch iawn y bydd llyfrgell newydd yn cael ei hagor yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ar 29 Chwefror 2016. Bydd y llyfrgell ar gael iw defnyddio yn ystod holl oriau agor y ganolfan hamdden. Bydd modd cael mynediad at lyfrau a chyfrifiaduron drwy ddefnyddio cyfleusterau hunan-wasanaeth. Maer llyfrgell wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o raglen i geisio moderneiddio llyfrgelloedd a’u cyd-leoli â gwasanaethau eraill yn y gymuned. Mae aelodau newydd yn cael eu gwahodd i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth mewn sesiynau a gynhelir dros yr wythnosau nesaf. Bydd staff y llyfrgell yn gweithio yn y llyfrgell ar yr adegau canlynol, i gynorthwyo cwsmeriaid gyda dewisiadau darllen, mynediad at TG a gwybodaeth. Dydd Llun 10.00 - 5.00 Dydd Mawrth 2.00 - 7.00 Dydd Mercher 1.00 - 5.00 Dydd Iau 10.00 - 7.00 Dydd Gwener 10.00 -5.00 Dydd Sadwrn 9.00 -1.00 Maer llyfrgell wrth ymyl caffi a chyntedd y ganolfan hamdden. Llyfrgell Mancot Bydd y gwasanaethau a ddarperir ym Mancot o rwydwaith llyfrgelloedd y cyngor yn dod i ben ar 26 Chwefror 2016 a byddant yn cael eu darparu yn y llyfrgell newydd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. Mae Cyfeillion Llyfrgell Mancot yn bwriadu gweithredur adeilad presennol ym Mancot fel llyfrgell gymunedol o fis Mawrth ymlaen pan fydd y newidiadau hyn yn digwydd. Llyfrgell Penarlâg Bydd y gwasanaethau a ddarperir ym Mhenarlâg o rwydwaith llyfrgelloedd y cyngor i ben ar 26 Chwefror 2016 a byddant yn cael eu darparu yn y llyfrgell newydd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. Llyfrgell Campws Queensferry Bydd y gwasanaethau a ddarperir i gampws Queensferry o rwydwaith llyfrgelloedd y cyngor yn dod i ben ar ddydd Gwener 19 Chwefror, 2016 (cyn dechraur hanner tymor newydd i ysgolion) a bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu gan y llyfrgell newydd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy o Dydd Llun 29 Chwefror ymlaen. Gwasanaeth Llyfrgell Deithiol Bydd gwasanaeth y llyfrgell deithiol yn ymweld âr lleoliadau canlynol ar sail rota tair wythnos gan ddechrau ar 29 Chwefror, 2016. Penarlâg: Ymweliad cyntaf Dydd Iau 3 Mawrth Byngalos Penarlâg, The Highway 9.30 -9.50 Maes Parcio’r Pafiliwn 10.00 -12.30 Mancot: Ymweliad cyntaf Dydd Iau 17 Mawrth Leeches Close 9.30 -10.30 Prince William Ave 10.40 - 11.40 Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Phencadlys y Llyfrgell ar 01352 704400 neu cysylltwch â Pennie Corbett, Prif Swyddog Llyfrgelloedd a’r Celfyddydau e-bost pennie.corbett@flintshire.gov.uk