Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad ar ‘Cynllunio ar gyfer Awyr Dywyll'

Published: 14/06/2021

Landscape image DArk Skies.jpgYmgynghoriad ar ‘Cynllunio ar gyfer Awyr Dywyll: Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer goleuadau yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy’

Beth ydym ni’n ei wneud? 

Mae Cyngor Sir y Fflint  mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, yn ceisio barn am nodyn Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) drafft ar gyfer goleuadau yn yr AHNE. Bydd hwn yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd i ddatblygwyr ac eraill ar greu dyluniad goleuo da yn yr AHNE.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Cadeirydd Cydbwyllgor yr AHNE:

“AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yw un o dirweddau hyfrytaf Cymru. Mae’n un o'r ardaloedd sy’n mwynhau’r awyr dywyllaf yng Nghymru ac yn cynnig cyfleoedd i brofi rhyfeddodau awyr dywyll. Bydd y CCA yn helpu gwarchod a gwella’r nodwedd arbennig hon drwy godi ymwybyddiaeth am y mater a hyrwyddo dyluniad goleuo sy’n ystyriol o’r awyr dywyll.  Fe hoffem ni glywed eich barn chi, a byddwn yn annog cymaint o bobl ag sy’n bosib i gymryd rhan yn y broses ymgynghori a chael dweud eu dweud ar y CCA drafft cyn y dyddiad cau ar 9 Awst."

Gellir gweld y ddogfen ar wefan AHNE.

Pam ydym ni’n gwneud hyn? 

Mae’r AHNE wedi’i dynodi yn dirwedd o bwysigrwydd cenedlaethol a’n diben pennaf yw gwarchod a gwella ei harddwch naturiol. Un o nodweddion arbennig cydnabyddedig yr AHNE yw ei natur llonydd sy’n cynnig cyfle i weld awyr dywyll. Mae’r AHNE yn un o’r ardaloedd sydd â’r awyr dywyllaf yng Nghymru, ac mae’r CCA drafft yn ceisio gwarchod a gwella’r nodwedd arbennig hon drwy ddarparu canllawiau i ddatblygwyr ac eraill ar greu dyluniad goleuo sy’n ystyriol o’r awyr dywyll. Pan gaiff ei gymeradwyo gan yr Awdurdodau Cynllunio Lleol, bydd y CCA yn ystyriaeth gynllunio berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau ac apeliadau cynllunio.

Beth ydym ni angen ei wybod? 

Mae’r tri Awdurdod Cynllunio Lleol a’r AHNE yn awyddus i glywed gan amrywiaeth eang o sefydliadau statudol ac anstatudol, cynghorau tref a chymuned, grwpiau gwirfoddol a’r cyhoedd, yn ogystal ag asiantau ac ymgynghorwyr cynllunio lleol. Dylech anfon eich sylwadau at Gyngor Sir Ddinbych, sy’n cydlynu’r ymgynghoriad ar ran y tri Awdurdod Cynllunio Lleol. Gallwch gyflwyno sylwadau drwy Borth Ymgynghori Sir Ddinbych, dros e-bost i: clwydianrangeaonb@denbighshire.gov.uk, neu drwy anfon llythyr at Huw Rees, Rheolwr y Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth, Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a’r Gwasanaethau Cefn Gwlad, Blwch Post 62, Rhuthun LL15 9AZ. 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 9 Awst 2021.