Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Fflecsi i lansio yn ardal Treffynnon

Published: 15/06/2021

New Buses 01.jpgMae Trafnidiaeth Cymru yn cymryd cam arall ymlaen wrth ehangu'r gwasanaeth bws fflecsi, gan ei lansio mewn rhan arall o Gymru.

Wrth weithio mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru a P&O Lloyd Coaches, bydd Cyngor Sir y Fflint yn cyflwyno’r gwasanaeth bws hyblyg newydd ar 21 Mehefin 2021.  

Bydd fflecsi yn cynnig gwasanaeth bws llawer mwy hwylus ar gyfer Treffynnon a’r ardal amgylchynol.  Byddwch yn talu ar y bws fel unrhyw wasanaeth arall – ond y gwahaniaeth mwyaf yw eich bod yn archebu’r bws trwy’r ap, dros y ffôn neu trwy ymweld â’r wefan.

Mae’r system archebu a reolir yn golygu bod teithwyr bws fflecsi yn sicrhau sedd, sy’n helpu gyda mesurau cadw pellter. 

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu Gogledd Cymru ac Arweinydd Trafnidiaeth Cymru, am y prosiect fflecsi

“Mae fflecsi yn brosiect cyffrous ac rydym yn falch o gydweithio gydag awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau i drawsnewid cludiant cyhoeddus yng Nghymru a rhoi cynnig ar fathau newydd o wasanaeth.  Rydym bellach yn rhedeg bysiau peilot fflecsi ar draws Cymru, ac mae’n wych ei weld yn ehangu i ardal Treffynnon yn Sir y Fflint.”

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd Sir y Fflint, y Cynghorydd Glyn Banks:

 “Rydym yn falch iawn o weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru ar y gwasanaeth fflecsi newydd yma yng ngorllewin Sir y Fflint. Wrth i ni ddod allan o’r cyfyngiadau Covid-19, a gweld cynnydd yn y galw am gludiant cyhoeddus, bydd fflecsi yn cynnig sicrwydd i deithwyr. Bydd y gwasanaeth yn galluogi preswylwyr i fynd allan, gyda chysylltiadau uniongyrchol â gorsaf fysiau Treffynnon, siopau lleol, cyfleusterau hamdden ac apwyntiadau meddygol mewn ffordd mwy hwylus.” 

Bydd y bysiau fflecsi yn gweithredu mewn maes gwasanaeth benodol yn ac o amgylch Treffynnon a bydd yn galluogi preswylwyr heb wasanaethau cludiant cyhoeddus i gysylltu gyda gwasanaethau bws masnachol yn Nhreffynnon a Chaerwys.  Byddent hefyd yn cynnig cludiant i gyfleusterau hamdden, siopau masnach, clybiau ar ôl ysgol ac apwyntiadau meddygol, gan leihau arwahanrwydd cymdeithasol a brofir gan rai preswylwyr gwledig.

I gael gwybod mwy, gan gynnwys manylion y gwasanaethau, a map o’r ardal sy’n cael ei wasanaethu a sut i archebu, ewch i https://www.fflecsi.cymru/