Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Moderneiddio Ysgolion: Ysgol Gymraeg Mornant. Picton

Published: 03/02/2016

Ar 5 Chwefror, bydd Pwyllgor Arolygu a Chraffu Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint yn ystyried y nifer sylweddol o ymatebion a dderbyniwyd ir ymgynghoriad statudol diweddar ar y cynigion i gau Ysgol Gymraeg Mornant, Picton. Yn unol âr Cod Trefniadaeth Ysgolion statudol, dechreuodd cyfnod ymgynghori ffurfiol ar 11 Tachwedd 2015 a daeth i ben ar 23 Rhagfyr 2015. Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr holl adborth a gafwyd i’r ymgynghoriad gan ddisgyblion, rhieni, gofalwyr, athrawon a llywodraethwyr cyn ir adroddiad gael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor. Os bydd y Cabinet yn penderfynu bwrw ymlaen, rhaid ir cynnig gael ei gyhoeddi wedyn ar ffurf Rhybudd Statudol. Cynhyrchodd y Cyngor Sir ddogfen ymgynghori yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru. Cafodd ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor ai hanfon at randdeiliaid. Cynhyrchwyd fersiwn atodol or ddogfen ar gyfer plant a phobl ifanc a oedd wedi’i hysgrifennu ai chyflwyno’n arbennig er mwyn eu galluogi i ddeall ac ymgysylltu âr broses ymgynghori. Yr opsiynau dan ystyriaeth oedd: cadwr status quo, creu ffederasiwn neu gau’r ysgol. Roedd modd i ymgyngoreion roi eu sylwadau drwy holiadur ar-lein neu drwy gwblhau ffurflen yng nghefn y ddogfen ymgynghori a hefyd trwy e-bost neu lythyr ac yn y cyfarfodydd ymgynghori. Cynhaliodd swyddogion y Cyngor gyfarfodydd â llywodraethwyr, staff addysgu a staff cymorth a rhieni / gofalwyr / gwarcheidwaid i roi cyfle iddynt ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau pellach, er nad yw hynnyn rhan o ganllawiau Llywodraeth Cymru. Roedd yr adroddiad ir Pwyllgor Craffu yn cynnwys crynodeb or materion a godwyd gan ymgyngoreion, ymateb i bob un or materion a godwyd, a barn Estyn yn llawn (fel y’i darperir yn ei ymateb ir ymgynghoriad) o rinweddau cyffredinol y cynnig. Dywedodd Ian Budd, Prif Swyddog Addysg Cyngor Sir y Fflint: Maer Cyngor Sir yn cynnal rhaglen moderneiddio ysgolion heriol. Maer Cyngor hefyd yn cydnabod fod adolygiadau fel hyn yn heriol ac yn sensitif i bawb dan sylw. Maer Cyngor Sir yn awyddus i ddarparur cyfleoedd gorau posibl i ddysgwyr i gyflawni eu llawn botensial mewn ysgolion syn addas i’r diben ac yn darparu addysg or radd flaenaf yn yr 21ain ganrif. Rhaid ir Cyngor sicrhau bod ei rwydwaith ysgolion yn diwallu anghenion addysgol nawr ac yn y dyfodol a bod y ddarpariaeth addysg yn un o ansawdd uchel, yn gynaliadwy, yn cael ei darparu mewn gwell adeiladau a’i bod yn diwallu’r angen i ddarparur nifer gywir o leoedd ysgol yn y lleoliadau cywir. Maer Cyngor yn cydnabod bod gwneud dim byd yn mynd i arwain at gymarebau disgybl athro uwch ym mhob ysgol wrth i gyllid refeniw ostwng.