Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwyl Gwanwyn 2014

Published: 27/05/2014

Mae pobl hyn yn Sir y Fflint wedi ysbrydoli bardd cymunedol i ysgrifennu cerdd ar gyfer dathliad cenedlaethol o greadigrwydd i rai dros 55. Cyfres o ddigwyddiadau a gynhelir ar draws Cymru yn ystod mis Mai sy’n cynnig cyfleoedd i bobl hyn gymryd mwy o ran yn y celfyddydau yw Gwyl Gwanwyn. Mae’r bardd Sophie McKeand wedi ysgrifennu’r gerdd Llif / Flow i adlewyrchu Treffynnon a’r bobl hyn sy’n byw yno yn ogystal â thrai a chyrsiau o syniadau sy’n cronni fel Ffynnon y Santes Wenffrewi. Fe’i crëwyd yn ystod gweithdai a gynhaliwyd yn Llyfrgell Treffynnon gyda Grwp Archif Cymunedol Treffynnon a dau grwp Addysg Oedolion a fu’n astudio barddoniaeth fel rhan o’r wyl. Bydd Llif / Flow yn cael ei pherfformio mewn darlleniad barddoniaeth, sydd ar agor i’r cyhoedd yn Llyfrgell Treffynnon ar ddydd Gwener 6 Mehefin am 1 y pnawn, ynghyd â cherddi a saernïwyd gan breswylwyr o Lys Eleanor yn Shotton. Mae grwp Shotton wedi mynychu gweithdai i fynegi mewn barddoniaeth a rhyddiaith sut y mae adar yn gweddnewid ein bywydau, gan edrych ar farddoniaeth gan Wallace Stevens, Gweneth Lewis a WB Yeats cyn dod o hyd i’w lleisiau eu hunain a chreu cerddi. Ar ôl y perfformiad, bydd y darnau hyn ar ddangos yn Llyfrgell Treffynnon. Mae’r rhan yma o brosiect Gwanwyn wedi’i dyfeisio a’i chyd-drefnu gan Adran Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint ac mae’n cael ei hariannu gan Gwyl Gwanwyn/Age Concern a gan Gyngor Sir y Fflint. Gall unrhyw un a hoffai ddod i’r darlleniadau neu sy’n chwilfrydig ynghylch barddoniaeth gymunedol gysylltu â Beth Ditson, Swyddog Digwyddiadau Cymunedol ar 07786 523 601 i gael mwy o wybodaeth. Capsiwn y llun: Y bardd cymunedol Sophie McKeand sy’n perfformio ar 6 Mehefin yn Llyfrgell Treffynnon.