Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dragons Den Cymru 2016

Published: 04/02/2016

Mae Sir y Fflint, unwaith eto, yn cynnal digwyddiad tebyg i Dragons’ Den gan obeithio denu pobl dalentog sydd â syniadau busnes newydd. Mae’r digwyddiad hwn yn ddi-dâl ac mae croeso i bawb sydd am fod yn berchen ar ei fusnes ei hun neu sydd am gael cymorth i fod yn entrepreneur, a gwahoddir pobl o bob oed i gynnig syniadau. Os bydd y Dreigiau, sef bobl fusnes leol, yn credu bod y syniad yn un addawol, byddant yn cynnig mentora’r ymgeisydd yn bersonol. Cynhelir y digwyddiad nesaf yng Ngholeg Cambria, Campws Glannau Dyfrdwy, fel rhan o Ddiwrnod Gwybodaeth i Entrepreneuriaid ddydd Gwener, 26 Chwefror rhwng 10am a 2pm. Bydd cymorth ar gael i fusnesau newydd gan ddarparwyr addysg lleol, Cymunedau yn Gyntaf, Canolfan Byd Gwaith, Gyrfa Cymru a Chyngor Sir y Fflint. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd: “Mae’n galonogol iawn fod cynifer o bobl fusnes lwyddiannus yr ardal yn awyddus i helpu darpar entrepreneuriaid. Cymunedau’n Gyntaf Sir y Fflint sy’n trefnu’r digwyddiad fel rhan o’r gwaith ardderchog sy’n mynd rhagddo drwy Rwydwaith Entrepreneuriaeth Busnes Sir y Fflint. Y nod yw helpu pobl leol i gael gwaith yn y farchnad lafur bresennol.” Mae Clwb Menter Sir y Fflint yn gweithio ochr yn ochr â Dragons Den Cymru. Mae aelodau’r Clwb i gyd yn entrepreneuriaid o bob oed ac maent i gyd wedi cyrraedd camau gwahanol yn y broses o ddatblygu eu busnes. Mae’r clwb yn cynnig gwybodaeth a gweithdai am ddim a chyfle i glywed siaradwyr ysbrydoledig o gyrff amrywiol a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach. Mae Cyngor Sir y Fflint a Thîm Busnes Llywodraeth Cymru hefyd ar gael i roi cyngor a chymorth. Mae’r clwb yn ddi-dâl ac yn cyfarfod bob pythefnos ar Gampws Cymunedol John Summers Community Campus, Dwyrain Ffordd Caer, Queensferry, Glannau Dyfrdwy CH5 1SE, a hynny bob yn ail nos Wener rhwng 10.30am a12.30pm. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chymunedau yn Gyntaf: 01244 846090 neu beverly.moseley@flintshire.gov.uk