Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Beicio i’r Gwaith

Published: 08/02/2016

Lansiodd Cyngor Sir y Fflint ei Gynllun Beicio ir Gwaith cyntaf ym mis Awst 2009 ar y cyd â P & MM (asiantaeth gwasanaethau marchnata sydd wedi ennill gwobrau syn arbenigo mewn gwella perfformiad). Ers lansior cynllun mae tua 312 o weithwyr wedi cymryd rhan yn y cynllun. Mae Beicio ir Gwaith yn gynllun di-dreth ac nid oes rhaid talu Yswiriant Gwladol ar ei gyfer. Ei fwriad yw helpu i hyrwyddo teithiau iachach ir gwaith a lleihau llygredd a thagfeydd. Trwy gymryd rhan yn y cynllun gall gweithwyr arbed cyfartaledd o hyd at 25% oddi ar gost beic mewn taliadau treth a chyfraniadau YG (yn dibynnu ar fand treth incwm yr unigolyn). Maer Cyngor yn anelu at ddangos manteision cynllun Beicio ir Gwaith ac annog cyflogwyr eraill i gynnig dewisiadau cludiant amgen eraill i’w gweithwyr a hyrwyddo beicio fel rhan o ffordd o fyw egnïol ac iach bob dydd. Gall cyflogwyr o bob maint ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol weithredu cynllun benthyciadau di-dreth ar gyfer eu gweithwyr. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Maer cynllun Beicio ir Gwaith yn cynnig manteision mawr o wella iechyd i helpur amgylchedd. Maer Cyngor wedi bod yn rhan ohono ers dros bum mlynedd a byddain annog unrhyw un syn gallu, i ymuno a beicio ir gwaith. Does dim ots beth yw maint eich busnes, gall pawb gymryd rhan a byddem yn argymell y cynllun i bob cyflogwr yn y Sir.” Gall gweithwyr y Cyngor gofrestru i gymryd rhan yn y Cynllun Beicio ir Gwaith ar gyfer Gwanwyn 2016 rhwng 8 Chwefror - 4 Mawrth 2016. I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Beicio ir Gwaith ewch i wefan yr Adran Drafnidiaeth yn http://www.dft.gov.uk/pgr/sustainable/cycling/cycletoworkguidance/