Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgolion ar amser

Published: 08/02/2016

Mae Jane Hutt AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Gyllid a Busnes y Llywodraeth wedi ymweld â safle’r Campws Dysgu newydd blaenllaw gwerth £30 miliwn yn Nhreffynnon, lle bydd ysgolion cynradd ac uwchradd newydd yn cael eu cyd-leoli ar safle’r Ysgol Uwchradd bresennol. Dechreuodd y gwaith adeiladu ychydig dros flwyddyn yn ôl ac mae’n mynd rhagddon dda ac ar amser. Disgwylir i’r ysgolion newydd agor fis Medi 2016 a bydd y cyfleusterau presennol yn parhau i gael eu defnyddio hyd nes yr adeg hynny i sicrhau nad oes unrhyw aflonyddwch ar y dysgwyr. Bydd yr ysgol gynradd newydd a enwyd yn ddiweddar yn Ysgol Maes y Felin, yn dod yn lle Ysgol Fabanod Perth y Terfyn ac Ysgol Iau y Fron a bydd yn darparu ar gyfer dysgwyr hyd at 11 oed. Bydd ar yr un safle â chyfleuster newydd Ysgol Uwchradd Treffynnon, a fydd yn cael ei hadeiladu i ddarparu ar gyfer addysg rhwng 11 ac 16 oed. Bydd lle i 600 o ddisgyblion yn yr ysgol uwchradd trillawr newydd a lle i 315 o ddisgyblion yn yr ysgol gynradd unllawr. Bydd disgyblion oedran cynradd ac uwchradd yn cael eu haddysgu yn yr adeilad newydd sbon gyda’r holl gyfleusterau TG modern i gynorthwyo gyda dysgu. Dywedodd y Gweinidog dros Gyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt AC: “Rydym yn ymrwymedig i fuddsoddi yn addysg ein plant fel eu bod yn cael y cyfleoedd gorau i ddysgu a datblygu mewn amgylchedd dysgu newydd, modern a bywiog. Maer campws dysgu newydd yn Nhreffynnon yn enghraifft wych o hynny ac rwyf wedi fy mhlesio gydar ffordd y mae’r cyllid o £15.5miliwn y gwnaethom ei ddarparu drwy ein Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg yn darparu’r cyfleusterau gorau posibl ar gyfer plant yn yr ardal. “Maen amlwg y bydd yr ysgolion cynradd ac uwchradd newydd sbon yma yn darparu lleoliad gwych ac hefyd yn gwneud gwahaniaeth go iawn ir gymuned gyfan. “Yn ystod fy ymweliad, roeddwn yn falch iawn o allu cyhoeddi hwb cyfalaf o £23 miliwn ar unwaith ar gyfer ein Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg ar draws Cymru. Gyda’i gilydd, er gwaethaf heriau ariannol anodd, rydym yn buddsoddi dros £1.4 biliwn yn y rhaglen i ail-adeiladu ac adnewyddu dros 150 o ysgolion a cholegau ledled Cymru, a fydd o fudd i ddysgwyr am flynyddoedd i ddod.” Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint: “Maer prosiect hwn yn cael arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru drwy ei Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg ac rwyn falch iawn bod y Gweinidog wedi cymryd y cyfle i weld pa mor dda mae gwaith yn mynd rhagddo ar yr hyn a fydd yn gyfleuster newydd modern gwych i blant, pobl ifanc ar gymuned ehangach. Dywedodd Jim Parker, Rheolwr Gyfarwyddwr dros Galliford Try North West: “Mae Campws Dysgu Treffynnon yn brosiect adeiladu blaenllaw ar gyfer Gogledd Cymru ac rydym yn falch o fod yn gweithio gyda phartneriaid mor ymroddedig yng Nghyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r partneriaethau rhwng yr holl fudd-ddeiliaid dan sylw wedi bod yn nodwedd o’r prosiect hwn sydd wirioneddol yn sefyll allan hyd yn hyn, ac rydym yn edrych ymlaen at gyflwynor cyfleusterau ysgol ansawdd uchel y mae plant Treffynnon yn eu haeddu.”