Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cefnogi Pobl

Published: 08/02/2016

Yn 2012, creodd Llywodraeth Cymru Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl. Mae’r grant yn ariannu gwasanaethau sy’n galluogi pobl sy’n agored i niwed barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi’u hunain. Yn ystod y tair blynedd diwethaf, gwelwyd toriadau sylweddol Gynllun Comisiynu Lleol y Rhaglen Cefnogi Pobl 2016-18, sy’n darparu’r Grant hwn. Mae wedi peri pryder sylweddol a chynyddol i’r awdurdod gan fod y gwasanaethau roedd y grant yn eu hariannu’n atal rhai rhag gorfod defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a gwasanaethau i’r digartref, sy’n fwy costus. Fodd bynnag, mae’r grant wedi’i ddiogelu ar gyfer 2016/17 gan roi cyfle i’r Tîm Cefnogi Pobl weithio gyda darpawyr i gael hyd i ffyrdd gwahanol o weithio, a bydd unrhyw arbedion yn cael eu defnyddio i ddarparu cymorth tymor byr i ymdopi a’r pwysau y byddwn yn eu hwynebu o ganlyniad i Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet dros Dai, “Torrwyd 18.4% oddi ar gyllideb Rhaglen Cefnogi Pobl Sir y Fflint dros y tair blynedd diwethaf oherwydd mesurau’r Llywdoraeth ac mae Tim Cefnogi Pobl Sir y Fflint wedi gorfod cymryd camau strategol penodol i leihau’r effaith ar ein cwsmeriaid. Rwy’n falch iawn fod Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl wedi’i ddiogelu rhag y toriadau yn ystod 2016/17. Mae hyn yn rhoi amser i’r Tim weithio gyda darparwyr i gael hyd i ffyrdd o arbed arian gan wneud cymaint ag y gallwn i ddiogelu’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Bydd Pwyllgor Craffu Cymuned a Menter Cyngor Sir y Fflint yn ystyried Cynllun Comisiynu Lleol 2016-18 ar gyfer Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl ddydd Mercher, 10 Chwefror.