Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dim newid ym mholisïau’r Dreth Gyngor ac Ardrethi Busnes

Published: 11/02/2016

Bob blwyddyn, mae angen i gynghorau gymeradwyo polisïau i weinyddu’r Dreth Gyngor ac Ardrethi Busnes. Mae hyn yn rhan o’r broses o bennu’r Dreth Gyngor, gan ystyried yr amgylchiadau a fydd yn arwain y Cyngor i roi gostyngiad mewn trethi lleol a/neu ryddhad rhag eu talu, i sicrhau bod biliau’r Dreth Gyngor ac ardrethi busnes yn cael eu cyfrifo’n gywir. Ar gyfer 2016-2017, argymhellwyd na ddylai’r Cabinet newid y Cynllun, ac y dylid: · parhau â’r polisi presennol o beidio â rhoi gostyngiad Treth Gyngor i ail gartrefi a chartrefi sy’n wag ers cyfnod hir yn 2016-17; · parhau â’r polisi presennol o ystyried gostyngiad Treth Gyngor yn ôl disgresiwn dim ond mewn achosion o argyfyngau sifil a thrychinebau naturiol; · parhau â’r polisi presennol o beidio â rhoi gostyngiadau ychwanegol yn ôl disgresiwn i fusnesau sydd eisoes yn gallu hawlio Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach; · cymeradwyo’r polisi Rhyddhad Ardrethi Busnes yn ôl Disgresiwn ar gyfer 2016-17. Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor, “Er gwaethaf y pwysau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor o ganlyniad i doriadau Llywodraeth y DU, rwy’n falch o gadarnhau na fydd lefel y rhyddhad ardrethi i gyrff elusennol, gwirfoddol a chyrff di-elw yn newid yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.” Mae’r polisi ar gyfer 2016-17 wedi’i gryfhau i ymdrin yn effeithiol â chyrff newydd sy’n cael eu sefydlu fel cyrff ‘di-elw’. Mae’n rhoi darlun cliriach o’r rheolau cymhwyso ar gyfer cwmnïau Budd Cymunedol a Mentrau Cymdeithasol. Cwmnïau ‘di-elw’ yw’r rheini nad eu prif ddiben yw gwneud elw i’w drosglwyddo i gyfranddalwyr; maent yn defnyddio unrhyw elw i gyflawni eu nodau a’u hamcanion.