Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Teithio Llesol yn dod i ysgol leol

Published: 11/02/2016

Fel rhan o Ymgynghoriad Teithio Llesol Cyngor Sir y Fflint, bu i swyddogion ymweld ag Ysgol Mynydd Isa gydar Trelar Addysg Diogelwch ar y Ffyrdd i siarad gydar disgyblion am eu siwrnai ir ysgol. Roedd y swyddogion am ganfod pa rwystrau a wynebir gan blant syn eu hannog i beidio â cherdded ir ysgol. Buont hefyd yn trafod manteision ehangach cerdded ir ysgol. Darparodd y disgyblion adborth defnyddiol ar gyfer y broses ymgynghori sydd wedi cael ei hanfon ymlaen at Lywodraeth Cymru fel rhan o adroddiad ymgynghori Sir y Fflint. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol y Cabinet dros yr Amgylchedd: Y Ddeddf Teithio Llesol yw’r gyntaf o’i bath yn y byd ac mae’n rhoi cyfle i ni wneud Cymru yn genedl Teithio Llesol. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyflwyno ei Fapiau Llwybrau Presennol cyntaf ac mae nawr yn disgwyl cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru. Ar gyfer y cyfnod ymgynghori nesaf ynglyn â’r Mapiau Rhwydwaith Integredig, bydd Cyngor Sir y Fflint yn llunio rhaglen o ymweliadau ag ysgolion eraill yn y Sir. Gall unrhyw ysgolion syn dymuno cymryd rhan gysylltu âr Tîm Teithio Llesol ar active.travel@flintshire.gov.uk Yn y llun gyda staff a disgyblion o Ysgol Gynradd Mynydd Isa mae Claire Parry, Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd, y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Arweiniol y Cabinet dros yr Amgylchedd a Jessica Pritchard, Cydlynydd y Cynllun Teithio Rhanbarthol.