Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn ystyried defnyddio gwasanaeth DNA i ymdrin â baw ci

Published: 15/02/2016

Trosedd amgylcheddol, yn enwedig baw ci, yw un o flaenoriaethau pobl Sir y Fflint ac mae Cyngor Sir y Fflint wrthi’n gyson yn ystyried sut y gall wella safon glendid y strydoedd. Ar hyn o bryd mae wrthi’n ystyried dull arloesol o ymdrin â pherchenogion cwn anghyfrifol. Cynhaliwyd cyfarfod yn ddiweddar rhwng aelodau Grwp Gorchwyl a Gorffen DNA Cwn Pwyllgor Arolygu a Chraffu’r Amgylchedd a Gary Downie o Streetkleen i drafod gwasanaeth cofrestru DNA cwn, sef PooPrints UK, yn Sir y Fflint. Ar ôl i’r Grwp ystyried eu casgliadau, byddant yn cyflwyno’u hargymhellion i’r Pwyllgor Craffu llawn cyn i’r Cabinet benderfynu ar y cynnig. Dywedodd y Cynghorydd Veronica Gay, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu: “Er gwaethaf llwyddiant yr Ymgyrch Glanhau sydd ar waith ers nifer o flynyddoedd, mae lleiafrif anghyfrifol sy’n dal i wrthod clirio llanastr eu cwn ac mae’n bwysig ein bod yn ystyried yr holl bosibiliadau o ran gorfodi’r rheoliadau ac anfon neges gref na chaiff baw ci ei oddef yn Sir y Fflint.” O’r chwith i’r dde: Mark Middleton, Rheolwr Gweithredol, Gwasanaethau Stryd, Gary Downie o Streetkleen, y Cynghorydd Veronica Gay, y Cynghorydd Arnold Woolley, y Cynghorydd David Roney, y Cynghorydd Ray Hughes, y Cynghorydd Colin Legg