Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllideb i ddiogelu Sir y Fflint

Published: 16/02/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gorfod dod o hyd i darged arbedion digynsail o dros £20 miliwn eleni o ganlyniad i ostyngiad sylweddol pellach mewn cymorth grant y Llywodraeth ac anghenion cynyddol o fewn ein Sir, mewn meysydd megis gofal cymdeithasol. Er gwaethaf yr her sylweddol hon, mae Sir y Fflint wedi llwyddo i gyrraedd cyllideb gytbwys a argymhellwyd ar gyfer 2016/17. Cyn cyfarfod y Cyngor Llawn ar osod cyllideb, dydd Mawrth 16 Chwefror, dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton, “Mae cyllideb eleni yn blaenoriaethu dyfodol ein pobl ifanc, y bobl ddiamddiffyn ar rhai mewn angen dybryd o fynediad at dai gweddus. Maer Cyngor rwyf yn ei arwain yn ymroddedig tuag at wneud gwahaniaeth go iawn gyda’r materion sydd bwysicaf i bobl Sir y Fflint.” Bydd y gyllideb hon yn: · sicrhau bod gwasanaethau allweddol, megis gwasanaethau dydd gofal cymdeithasol, cyfleusterau hamdden a chyllidebau ysgolion i gyd yn cael eu diogelu am flwyddyn arall; · cynyddu ein buddsoddiad mewn cyllidebau ysgolion o £1.4 miliwn drwy gyfuniad o’n harian ein hunain a’r grant amddifadedd disgyblion ychwanegol a sicrhawyd gyda Llywodraeth Cymru; · cynyddu buddsoddiad mewn gwasanaethau cymdeithasol allweddol o dros £2 filiwn; a · pharhau ân hymrwymiad i gadw ein tri chartref gofal preswyl sy’n cael eu rhedeg gan y Cyngor, mae hyn yn dra gwahanol ir dull a fabwysiadwyd gan lawer o Gynghorau eraill ledled y DU. Ychwanegodd y Cynghorydd Shotton, Mae Sir y Fflint wedi cyflawni ei hymrwymiad i amddiffyn y gwasanaethau a gafodd eu nodi fel bod mewn perygl yn yr ymarfer ymgynghori cyllideb gyhoeddus Dyma Eich Cyfle Chi cyn y Nadolig. Mae hon wedi bod yn dasg anodd ac rydym wedi cyflawni hyn drwy dorri costau’n galed a dod o hyd i atebion creadigol er mwyn ein galluogi i gynnal gwasanaethau lleol. “O ystyried yr anawsterau o ran cydbwyso cyllideb ac aros yn driw i egwyddorion y Cyngor, rydym wedi ceisio defnyddio £1.4 miliwn o gronfeydd wrth gefn y Cyngor, er mwyn lliniaru a diogelu gwasanaethaur cyngor ymhellach. Er gwaethaf yr heriau a wynebwn o fesurau caledi a osodwyd yn y DU, bydd Cyngor Sir y Fflint yn parhau i wneud safiad cadarn, i lobïo a mynegi ein hachos dros gyllid tecach i wasanaethau cyngor lleol gan y Llywodraeth a dros y 12 mis nesaf, byddaf yn ceisio, fel Arweinydd y Cyngor, i barhau i ffurfio cynghreiriau cryf gyda grwpiau cymunedol lleol, staff y cyngor, undebau llafur a phreswylwyr lleol wrth i ni adeiladur momentwm i amddiffyn gwasanaethau lleol yn wyneb caledi parhaus.” Cyllideb y Cyngor yn Cynnig Buddsoddi record o £21 Miliwn mewn Tai Cyngor Yn dilyn penderfyniad llethol gan denantiaid Cyngor Sir y Fflint i aros gydar Cyngor ym mhleidlais 2012 yn hytrach na throsglwyddo i landlord cymdeithasol newydd, mae gwasanaeth Tai y Cyngor yn parhau i fynd o nerth i nerth. Maer Gwasanaeth Tai sydd wedi gwella llawer, nid yn unig yn rhoi gwell gwasanaeth o ddydd i ddydd i denantiaid, ond yn cynhyrchu arian ychwanegol, drwy weithio’n fwy doeth ac yn effeithlon ar welliannau ac atgyweiriadau ir cartref. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Shotton Nid yn unig ein bod â gwasanaeth gwell o lawer nawr ond, am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth, rydym yn dechrau adeiladu tai Cyngor newydd fel rhan on cytundeb ariannu gyda Llywodraeth Cymru. Rydym ar y trywydd iawn i adeiladu mwy o dai cymdeithasol newydd o dan y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) fel rhan on dull arloesol i ddarparu tai cymdeithasol. Er gwaethaf caledi yn y sector cyhoeddus, rwyf yn falch bod y Cyngor yn symud ymlaen yn dda gyda’n blaenoriaethau ar gyfer tai a darparu ar gyfer pobl Sir y Fflint.” Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd Helen Brown, Eleni, bydd y Cyngor yn buddsoddi cyllideb flynyddol o £21 miliwn, sy’n record, ar welliannau i gartrefi ac rydym ar y trywydd iawn i wella ein stoc tai fel syn ofynnol erbyn 2020 i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae popeth rydym yn bwriadu ei wneud i gael ein cartrefi i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru yn cael ei wneud mewn ymgynghoriad agos â thenantiaid a Chynghorwyr. Rydym yn gweithio gydan gilydd fel tîm cryf ac rwyn falch iawn on llwyddiannau.” Meddai’r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Bernie Attridge, Maer Cyfrif Refeniw Tai ar gwasanaeth tai yn parhau i berfformion dda a gwella. Rydym wedi cadw rhenti ar lefelau fforddiadwy ac rydym yn parhau i weithio gyda thenantiaid ar ddull partneriaeth cadarn i ddatblygiadau gwasanaeth a chodi tâl. Mae gennym weledigaeth ar gyfer dyfodol tai Cyngor y Sir a bydd ein buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn ein stoc tai 7000+ dros y pum mlynedd nesaf yn creu gwaith a chyfleoedd gwaith i gwmnïau lleol.”