Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Darllediad byw cyntaf o Bwyllgor Cynllunio a Rheoli Datblygu

Published: 16/02/2016

Yn dilyn llwyddiant darllediad byw cyntaf erioed y Cyngor o gyfarfod llawn y Cyngor ar 16 Chwefror, bydd gwylwyr nawr yn cael y cyfle i wylio Cynghorwyr yn trafod cynlluniau datblygu lleol mewn amser real ar-lein. Bydd darllediad byw cyntaf o Bwyllgor Cynllunio a Rheoli Datblygu’r Cyngor yn cael ei gynnal ddydd Mercher 24 Chwefror. Bydd cyflwynor dechnoleg newydd hon yn golygu y gall pobl naill ai wylior cyfarfod fel y maen digwydd, neu ddal i fyny’n ddiweddarach, ar adeg ac mewn lleoliad syn gyfleus iddyn nhw. Bydd pob cyfarfod o Gyngor Sir y Fflint ar Pwyllgor Cynllunio a Rheoli Datblygu yn y dyfodol yn cael eu darlledun fyw a gellir eu gweld ar-lein drwy fynd i http://www.flintshire.public-i.tv/core/portal/home Gellir dod o hyd i ddyddiadau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol ar wefan y Cyngor a bydd rhaglenni hefyd ar gael wythnos cyn y cyfarfod. Dywedodd y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor, “Mae gwe-ddarlledu cyfarfodydd y Cyngor wedi cael ei gyflwynon llwyddiannus mewn nifer o Gynghorau ledled y Deyrnas Unedig ac rwyn falch iawn bod Sir y Fflint bellach yn cael y cyfle i wireddu manteision gwe-ddarlledu o ran ymgysylltu âr cyhoedd a thryloywder. “Maer penderfyniadau mwyaf yn cael eu gwneud yng nghyfarfodydd llawn y Cyngor Sir ac maer Pwyllgor Cynllunio yn denu’r presenoldeb mwyaf rheolaidd gan aelodau or cyhoedd. Bydd cyflwyno gwe-ddarlledu ar gyfer y cyfarfodydd hyn nid yn unig yn ei gwneud yn haws i bobl sydd eisoes yn dilyn y broses ddemocrataidd, ond hefyd yn gyfle i’r bobl hynny na fyddai wedi gallu mynychu cyfarfodydd yn Neuadd y Sir o’r blaen.