Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Premiwm y Dreth Gyngor

Published: 17/02/2016

O fis Ebrill 2017 ymlaen, bydd cynghorau Cymru yn gallu dewis codi premiwm treth gyngor gwerth hyd at 100% o’r gyfradd safonol ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi. Nod y premiwm yw annog perchenogion i sicrhau bod yr anheddau hyn yn cael eu defnyddio’n llawn eto a lleihau’r broblem prinder tai, cynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael i’w prynu neu eu gosod a gwella golwg cymunedau lleol. Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir y Fflint yn ystyried cyflwyno premiwm treth gyngor gwerth 100% o’r gyfradd safoanol ar ail gartrefi ac eiddo sy’n wag ers 12 mis neu ragor. Bydd mesurau ar gael i helpu’r rhai sy’n ei chael yn anodd sicrhau bod yr eiddo’n cael ei ddefnyddio eto. Er enghraifft, mae’n bosibl y cânt eu heithrio rhag talu’r premiwm am 12 mis os yw eu heiddo’n cael ei farchnata i’w werthu neu ei osod. Mae’r Cyngor wrthi’n mynd drwy’r broses o gymeradwyo’r cynllun ac mae barn y preswylwyr yn rhan bwysig o’r broses honno. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Drwy gyflwyno’r cynllun hwn, rydym yn cymryd camau pwysig i ddefnyddio’r system dreth leol i annog perchenogion i sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio eto a chynyddu nifer y tai yn ein cymunedau. Ar hyn o bryd mae tua 888 o gartrefi gwag hirdymor felly mae’n bwysig cael sylwadau’r preswylwyr a’r cymunedau. Byddwn yn eu hannog i anfon sylwadau ar ein cynigion erbyn 26 Chwefror 2016. Gall ymatebwyr ymateb i’r ymgynghoriad drwy anfon sylwadau drwy’r e-bost at local.taxation@flintshire.gov.uk Os hoffech ragor o wybodaeth am y Premiwm Treth Gyngor, ffoniwch y gwasanaeth Dreth Gyngor ar 01352 704848.