Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dweud eich barn ar ddyfodol Glannau Dyfrdwy

Published: 16/02/2016

Yn dilyn cyhoeddi bod mwy o arian ar gyfer rhaglen adfywio Glannau Dyfrdwy, mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal ymgynghoriad ar ddydd Iau a dydd Gwener nesaf hwn. Mae’r Cyngor yn gweithio gydag ymgynghorwyr David Lock Associates i ddatblygu cynllun 30 mlynedd a gweledigaeth ar gyfer Glannau Dyfrdwy, dan yr enw rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Bydd y cynllun, a fyddai’n llywio cyfeiriad strategol Glannau Dyfrdwy, yn cael ei gwblhau’n ddiweddarach yn y gwanwyn. Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor eisiau ymgynghori â’r cyhoedd ynghylch y gwaith hyd yma ac ar y themâu sy’n dechrau ymddangos. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, a hefyd ddweud eich barn ynghylch dyfodol Glannau Dyfrdwy, dewch draw i Ganolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ddydd Iau nesaf 18 Chwefror rhwng 11am a 4pm neu i Lyfrgell Cei Conna ddydd Gwener nesaf 19 Chwefror rhwng 10.30am a 3pm. Bydd Swyddog Adfywio’n bresennol i egluro pethau.