Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Yn galw holl gyflogwyr Sir y Fflint

Published: 19/02/2016

Fech gwahoddir i gymryd rhan mewn Digwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant sydd iw gynnal ym mis Ebrill. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Iau,14 Ebrill 2016 rhwng 10am – 3pm yn Neuadd Ddinesig, Wepre Drive yng Nghei Connah ac, os ydych yn gyflogwr â swyddi iw llenwi nawr neu yn y dyfodol agos, yna dymar digwyddiad i chi. Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, y Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i drefnur digwyddiad hwn a anelir at oedolion a phobl ifanc syn chwilio am waith. Gall ymgeiswyr fanteisio ar gefnogaeth ‘ar y diwrnod’ i lenwi ffurflenni cais a byddant yn cael cynnig cyfle i adolygu eu CV. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: “Yn 2015 denodd y digwyddiad hwn 800 o fynychwyr. Mae wedi ei ddatblygu i gefnogi cyflogaeth yn Sir y Fflint a dod â chyfleoedd am swyddi i bobl leol gan roi cyfle i gyflogwyr gyfarfod ymgeiswyr wyneb yn wyneb. “Y llynedd roedd dros 30 o gyflogwyr a sefydliadau yn bresennol ac roedd 157 o unigolion yn llwyddiannus wrth sicrhau cyflogaeth.” Bydd gan Gyrfa Cymru stondin yn y digwyddiad, ynghyd â Chymunedau ar gyfer Gwaith a rhaglen Esgyn - cynllun Llywodraeth Cymru sydd âr nod o ddarparu cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth ledled Cymru ar gyfer pobl syn bodlonir meini prawf penodol. Os ydych yn gyflogwr lleol a fyddai â diddordeb mewn bod â stondin ar gyfer y digwyddiad neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Paul Murphy yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 07748881647 paul.murphy6@dwp.gsi.gov.uk cyn dydd Iau 17 Mawrth 2016. Maer Neuadd Ddinesig yn ganolog iawn ac mae ganddo gyfleusterau parcio ardderchog.