Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Academi Prentisiaid Sir y Fflint yn datblygu’n dda

Published: 23/02/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio gyda Gwaith yn yr Arfaeth i ddatblygu Academi Prentisiaid ar gyfer y Sir. Ym mis Hydref y llynedd, cymeradwywyd y gwaith o greu academi gan y Cyngor. Bydd yr academi yn gwneud y mwyaf o greu swyddi lleol sy’n gofyn am sgiliau a fydd eu hangen ar gyfer rhaglenni adeiladu ac adnewyddu tai mawr y Cyngor dros y pum mlynedd nesaf. Mae contractau adeiladu y Cyngor bob amser gyda gofyniad ar y contractwr i ddarparu cyfleoedd prentisiaeth ac i recriwtio gweithwyr lleol, fodd bynnag, yn aml mae’n anodd cwblhaur prentisiaethau oherwydd natur y contractau. Bydd creu yr academi hon yn sicrhau bod y prentisiaethau llawn yn cael eu gwneud au cyflwyno. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod y Cabinet dros Ddatblygu Economaidd, Maer Cyngor yn bwriadu gwario tua £150 miliwn ar adeiladu tai dros y 5 mlynedd nesaf ac mae hyn yn creu’r cyfle i oddeutu 50 o brentisiaethau i lefel 2, gyda rhai or rhain yn cyflawni lefel 3 a thu hwnt. Y math o rolau sydd eu hangen yw plymio, gwaith saer, plastro, nwy a thrydan, bricwyr, ond hefyd bydd angen rolau eraill fel swyddogion cyswllt tenantiaid a syrfewyr meintiau. “Rydym hefyd eisiau gweld rhaglen dda ar waith i gynnig cyfleoedd lleoliad gwaith newydd ac ychwanegol ar gyfer y rhai sydd bellaf i ffwrdd or gweithle megis y rhai nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET) ar rhai sydd ag anableddau dysgu neu heriau iechyd meddwl. Mae Gwaith yn yr Arfaeth yn gwmni buddiant cymunedol sydd âr profiad perthnasol, y diwylliant ar gwerthoedd cywir i fod yn bartner agos i’r Cyngor ac mae gweithio gyda thrydydd parti yn lleihaur gost o weinyddur cynllun yn sylweddol i’r Cyngor. Maent wedi ymrwymo i gael sylfaen yn Sir y Fflint a bydd rheolwr y cynllun / swyddog lleoliad yn cael eu cyflogi gan y Cyngor ond yn cael eu secondio i weithio ar raglen Gwaith yn yr Arfaeth Sir y Fflint. Mae hysbysebion wedi’u dosbarthu ar gyfer y garfan gyntaf o brentisiaid a phobl leol i weithio ar y contractau. Bu lefel dda o ddiddordeb ac mae’r grwp cyntaf i fod i ddechrau gyda Wates a’u is-gontractwyr ddiwedd mis Chwefror. Yn ogystal, maer Cyngor yn cynnal Ffair Prentis ar 16 Mawrth fel rhan o’r wythnos Prentisiaid Cenedlaethol. Mae ysgolion uwchradd Sir y Fflint wedi ymrwymo i anfon pobl ifanc ir digwyddiad a hoffai Sir y Fflint i gyflogwyr lleol i gymryd stondinau yn y digwyddiad. Mae prif siaradwyr yn cynnwys prentisiaid wedi eu trefnu a bydd gan fusnesau stondinau i hyrwyddo cynlluniau eu hunain a chyfleoedd cyflogaeth ochr yn ochr â chyfleoedd Rhowch gynnig ar Fasnach a chael cyngor ar ysgrifennu CV. Am fwy o fanylion am y Ffair Prentis, cysylltwch â Kate Catherall, Ymgynghorydd Busnes gyda Chyngor Sir y Fflint, ar 01352 703221 neu e-bostiwch kate.catherall@flintshire.gov.uk.