Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwella maes parcio ar Lwybr Arfordir Sir y Fflint

Published: 26/02/2016

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint wedi cwblhau rhan arall o’r daith i adnewyddu’r arfordir drwy roi wyneb newydd ar faes parcio allweddol ger Dociau Maes Glas. Y Ceidwad Cefn Gwlad, Tim Johnson, oedd yn gyfrifol am reoli’r prosiect, a bydd yn caniatáu i’r gweithgareddau hamdden a’r gweithgareddau masnachol yn y doc barhau i dyfu. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: “Dyma’r prosiect mwyaf y mae’r Gwasanaeth Cefn Gwlad wedi’i roi ar waith â’r arian a gawsom y llynedd gan Gronfa Cymunedau’r Arfordir. Rydym wedi gwario dros £13,000 ar y gwaith o roi wyneb newydd ar y maes parcio hwn, gan ddatrys hen broblem. Cyn y prosiect hwn, maes parcio calchfaen oedd hwn, ac roedd angen ei drwsio bob blwyddyn oherwydd byddai’r llanw’n ei ddifrodi.” Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Cafodd Sir y Fflint ychydig o dan £300,000 y llynedd gan Gronfa Cymunedau’r Arfordir, sy’n rhan o’r Gronfa Loteri Fawr, a hynny er mwyn gwella arfordir Sir y Fflint. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn boblogaidd ymhlith pobl leol ac ymwelwyr a bydd y gwaith a gwblhawyd yn y maes parcio’n gwella’r rhan hon o’r Llwybr yn Sir y Fflint. Cawson ymateb da’n barod. Mae’n braf gweld prosiect y mae’r Gwasanaeth Cefn Gwlad wedi gobeithio dechrau arno ers tro, yn dwyn ffrwyth o’r diwedd.” Y Llywodraeth sy’n ariannu Cronfa Cymunedau’r Arfordir a hynny drwy gyfrwng asedau morol Ystâd y Goron. Caiff ei ddyfarnu gan y Gronfa Loteri Fawr ar ran Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Maes Pario Maes Glas cyn 2016 Maes Parcio Maes Glas ar ôl 2016