Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dewch i ddathlu yn Nyffryn Maes Glas

Published: 03/03/2016

Mae Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas, mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, wedi trefnu diwrnod glanhau ym mis Mawrth ar y safle sy’n adnodd cymunedol gwerthfawr ar gyfer hamdden ac addysg. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd, Mae Dyffryn Maes Glas yn safle 70 erw syn cynnwys saith o Henebion Cofrestredig, pump pwll, coetiroedd a mannau agored. Mae olion rheilffordd a gaeodd yn 1957 yn rhedeg i lawr y cwm 1.5 milltir. Mae gwely’r rheilffordd yn darparu llwybr di-draffig i gerddwyr o Dreffynnon i Faes Glas. Ar ben isaf y dyffryn mae amgueddfa Dyffryn Maes Glas. Maer Cyngor ai bartneriaid yn annog pobl leol i helpu i lanhau a gwellar ardal syn boblogaidd ymysg thwristiaid a phobl leol fel ei gilydd. Meddai Gwladys Harrison sy’n gyfrifol am bortffolio’r Amgylchedd a Bywyd Gwyllt ar gyfer Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas, Mae diwrnod glanhau wedi cael ei drefnu ar gyfer 18 Mawrth. Bydd yn dechrau am 9am ac o 3:30 - 5:30pm, rydym wedi trefnu gweithgareddau hwyliog, gan gynnwys cerddoriaeth, reidiau ar gefn merlod, dawnswyr Morris a chastell neidio. Mae Diwrnod Dyffryn Maes Glas yn syniad a ddaeth or digwyddiad blynyddol Diwrnod Mawr y Dyfrdwy. Roeddwn am i’r gymuned leol ymfalchïo yn ein hardal a glanhaur safle cyn agor y cyfleusterau newydd. I gyflawnir nod hon, mae Tesco Treffynnon a chwmni paneli insiwleiddio Kingspan ym Maes Glas wedi bod yn hynod gefnogol ac yn darparu cymorth i symud a gwaredu sbwriel a adewir yn ein hardal hardd. Mae tipio anghyfreithlon yn broblem fawr. Pwrpas y diwrnod glanhau yw paratoi ar gyfer ailagor y Dyffryn a’r Amgueddfa sydd wedi cael eu gwella dros y gaeaf o ganlyniad i grant o £1 filiwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a sicrhawyd gan Gyngor Sir y Fflint ac Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas. Maer Ymddiriedolaeth yn gwahodd y gymuned leol i ddod draw ar 18 Mawrth a mwynhaur dathliadau a gweld y gwaith sydd wedii wneud i wella’r man prydferth lleol hwn. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â threfnydd y digwyddiad, Gwladys Harrison ar 07706188523 neu G_HARRISON@sky.com.