Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £14 miliwn yn moderneiddio dros 100 o lyfrgelloedd
  		Published: 04/03/2016
Mae Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi 
cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru, dros y naw mlynedd diwethaf, wedi buddsoddi 
dros £14 miliwn yn diweddaru a moderneiddio 100 a mwy o lyfrgelloedd cyhoeddus 
ledled Cymru. 
 
Mae’r arian wedi cael ei ddefnyddio i wella’r cyfleusterau cyhoeddus- popeth o 
ddiweddaru’r systemau TGCh i wella ardaloedd y cyhoedd a chreu mwy o 
lyfrgelloedd hyblyg; mae hyn wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n 
defnyddio’r cyfleusterau ac yn ymaelodi.
 
Mewn rhai llyfrgelloedd, mae cyd-leoli gwasanaethau wedi digwydd lle mae’r 
llyfrgelloedd wedi cael eu gweddnewid yn ganolfannau cymunedol.  Mae 
gwasanaethau eraill y cynghorau yn cael eu sefydlu yn y llyfrgelloedd – er 
enghraifft, cyfleusterau hamdden a chyngor ar dai.
 
Mae help ariannol Llywodraeth Cymru’n helpu i wneud llyfrgelloedd Cymru yn 
llwyddiant.  Yn 2014-15, ymwelodd dros 13.6 miliwn o ddinasyddion â 
llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru a chafodd dros 11.1 o lyfrau eu benthyg.
 
Mae’r Dirprwy Weinidog yn dathlu’r cyhoeddiad yn agoriad swyddogol Llyfrgell 
Glannau Dyfrdwy.
 
Cafodd Cyngor Sir y Fflint £92,000 gan Raglen Llyfrgelloedd a Dysgu Cymunedol 
Llywodraeth Cymru i greu ardaloedd cyd-leoli newydd yng Nghanolfan Hamdden 
Glannau Dyfrdwy.
 
Yn y llyfrgell newydd, mae systemau hunan-wasanaeth ar gael – mae hyn yn golygu 
bod y llyfrgell yn gallu parhau i fod ar agor pan mae’r ganolfan hamdden ar 
agor.  Mae defnyddwyr y llyfrgell hefyd yn gallu defnyddio’r caffi a’r cyntedd 
i ddarllen, cael tamed i’w fwyta a chysylltu â’r Wi-Fi.
 
Cyn yr agoriad swyddogol, dywedodd y Dirprwy Weinidog:
 
“Mae ein hymrwymiad a’n buddsoddiad mewn llyfrgelloedd yn eu helpu i fod yn 
berthnasol i fywydau pobl heddiw.  Mae Glannau Dyfrdwy yn enghraifft rhagorol o 
sut mae cyd-leoli yn gallu apelio at gynulleidfaoedd newydd ac mae’r 
cyfleusterau newydd a’r oriau agor hirach o fantais i’r rheini sydd eisoes yn 
defnyddio’r llyfrgell.
 
“Mae llyfrgelloedd yn asedau cymunedol pwysig.  Maen nhw ar agor i bawb ac yn 
cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cymdeithasol ac addysgol.  Mae llyfrgelloedd yn 
wahanol i’r hyn yr oedden nhw’n arfer bod; bydd defnyddwyr hen a newydd yn cael 
eu synnu cymaint o wasanaethau cyhoeddus sydd ar gael mewn llyfrgelloedd.  
Rwy’n falch iawn bod ein help ni yn galluogi’r gweddnewidiad hwn i barhau fel 
bod llyfrgelloedd yn parhau i fod yn rhan bwysig o’n cymunedau.”
 
Mae gan lyfrgell Glannau Dyfrdwy 5,000 o lyfrau newydd a 4 cyfrifiadur 
cyhoeddus ynghyd ag 20 tabled y gellir eu defnyddio yn y llyfrgell.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:   
“Mae’r ganolfan newydd yn rhan o fuddsoddiad gwerth £250,000 yng Nghanolfan 
Hamdden Glannau Dyfrdwy gyda chyfraniadau ariannol mawr gan Lywodraeth Cymru.
“Mae Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn atyniad mawr yn Sir y Fflint a bydd y 
llyfrgell newydd, ynghyd â’r gwelliannau mawr sydd wedi cael eu gwneud i’r 
fynedfa a’r dderbynfa yn sicrhau ei fod yn lle deniadol i ymweld ag ef ac yn 
parhau i fod yn lle pwysig yn yr ardal.”