Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgyrch gwregys diogelwch Cymru gyfan

Published: 07/03/2016

Mae Ymgyrch Gwregys Diogelwch Cymru Gyfan yn dechrau ar 7 Mawrth 2016 ac unwaith eto mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ac yn codi ymwybyddiaeth o gosbau a chanlyniadau peidio â gwisgo gwregys diogelwch neu beidio â defnyddio seddau plant addas. Mae peidio â gwisgo gwregys diogelwch yn anghyfreithlon a gall fod yn angheuol hyd yn oed ar deithiau byr, arferol, ac ar gyflymder isel. Fel gyrrwr, chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod teithwyr o dan 14 oed yn gwisgo gwregys diogelwch neu’n defnyddio’r seddau plant sy’n addas ar gyfer eu taldra a’u hoedran. Hefyd, dim ond un person ddylai ddefnyddio pob gwregys diogelwch – dim rhannu! Y gosb ar gyfer peidio â gwisgo gwregys diogelwch yw dirwy o £100 yn y fan a’r lle. Os cewch eich erlyn, uchafswm y ddirwy yw £500. Dim ond 3 eiliad y mae’n ei gymryd i gau gwregys diogelwch! Dywedodd Steve Jones, Prif Swyddog Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint: “Dywed y gyfraith fod yn rhaid gwisgo gwregys diogelwch bob amser. Y ffaith syml yw bod gwregys diogelwch yn arbed bywydau, hyd yn oed ar y teithiau byrraf a’r cyflymder isaf. Rwy’n annog pobl i gofio pwysigrwydd gwisgo gwregys diogelwch yn y seddau blaen a seddau cefn y cerbyd a defnyddio seddau diogelwch plant cywir.” Mae’n rhaid i chi wisgo gwregys diogelwch os ydych yn yrrwr neu’n deithiwr anabl, oni bai nad oes yn rhaid i chi eu gwisgo am resymau meddygol. Efallai y bydd angen i chi addasu eich cerbyd. Mae’n rhaid i ferched beichiog wisgo gwregys diogelwch oni bai bod meddyg yn dweud nad oes yn rhaid i chi am resymau meddygol. Mae hyn yn berthnasol ir seddau blaen a chefn ac nid yw beichiogrwydd yn darparu eithriad rhag y gyfraith. Er mwyn sicrhau y gall ffrâm y corff oddef unrhyw wrthdrawiad cyflym, y dull gorau i ferched beichiog wisgo gwregys diogelwch yw: • Rhoir strap croeslinol rhwng y bronnau (dros asgwrn y fron) gyda’r strap yn pwyso ar yr ysgwydd, nid y gwddf. • Rhowch y gwregys glin yn wastad ar eich cluniau, gan ei osod yn gyfforddus o dan yr abdomen, a dros y pelfis nid y bwmp. • Dylid gwisgo’r gwregys mor dynn â phosibl. Ni ddylai merched beichiog wisgo ‘gwregys glin yn unig’ gan fod tystiolaeth yn dangos eu bod wedi achosi anafiadau angheuol i fabanod heb eu geni pan fydd y cerbyd yn arafu’n gyflym. Mae’r gyfraith yn benodol iawn ynglyn â diogelwch plant sy’n teithio yn sedd flaen neu sedd gefn unrhyw gar, fan neu gerbyd nwyddau. Mae’n rhaid iddynt ddefnyddio seddau plant addas nes eu bod â thaldra o 135cm neun 12 oed (pa bynnag un y maent yn ei gyrraedd yn gyntaf). Ar ôl hyn, mae’n rhaid iddynt wisgo gwregys diogelwch oedolyn. Mae yna ychydig iawn o eithriadau. Mae yna lawer o wahanol fathau o seddau car plant ar gael felly cymrwch eich amser wrth ddewis. Ewch i siopau ac edrychwch ar wefannau i gael syniad da o ba fathau o seddau sydd ar gael a pha rai sy’n debygol o fod y rhai mwyaf addas ar gyfer eich plentyn ach car. Am fwy o wybodaeth ewch i www.childcarseats.org.uk