Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Mabwysiadu a Maethu Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LHDT)

Published: 08/03/2016

Ydych chi’n Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol neu Drawsrywiol ac yn ystyried mabwysiadu neu fethu? Fel rhan o Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDT (7-13 Mawrth), mae Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint a Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn cynnal sesiwn galw i mewn yng Ngwesty’r Springfield ger Treffynnon ar ddydd Sadwrn 12 Mawrth 10-12.30 Cynhelir Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDT gan New Family Social, grwp cymorth y DU ar gyfer mabwysiadwyr a gofalwyr maeth LHDT. Bob gwanwyn, mae gwasanaethau maethu a mabwysiadu ar draws y DU yn cynnal digwyddiadau yn benodol ar gyfer darpar rieni sy’n lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol. Ar draws y DU, mae prinder o fabwysiadwyr a gofalwyr maeth. Mae tua 4,000 o blant angen eu mabwysiadu bob blwyddyn. Maer Rhwydwaith Faethu yn amcangyfrif bod angen brys am 9,000 yn rhagor o ofalwyr maeth yn y DU. Roedd cyplau or un rhyw yn mabwysiadu yn cyfrif am 7.8 y cant or holl rai a fabwysiadwyd yng Nghymru yn 2014/15. Mae Sir y Fflint yn awyddus i annog mwy o gyplau neu ofalwyr sengl LHDT i ddod ymlaen. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Rydym yn gobeithio chwalu llawer o fythau am faethu. Mae ein gofalwyr maeth yn Sir y Fflint yn sengl, yn briod, yn hoyw, yn strêt, ifanc, hen, gydag a heb blant eu hunain. Mae gan bawb rywbeth gwahanol iw gynnig. Y peth pwysicaf yw bod gennych amser, ystafell wely sbâr a chartref diogel, gofalgar a chariadus iw gynnig i blentyn. Yn ein profiad ni, mae gan ofalwyr maeth a mabwysiadwyr LHDT yr union sgiliau rydym yn chwilio amdanynt, ac, yn bwysicach, y penderfyniad sy’n hanfodol i ofalu am y plant a’r bobl ifanc ddiamddiffyn hyn.” Mae pobl ifanc sydd eisoes mewn gofal maeth gyda phobl LGBT hefyd wedi bod yn siarad am eu profiadau. Dywedodd un: “Mae hin ddynes ddoniol, ofalgar syn gwneud i mi deimlon ddiogel. Rwy’n ffodus iawn i fod wedi dod i fyw ati. Os ydych yn awyddus i faethu a’ch bod yn hoyw, lesbiaidd, deurywiol neu drawsrywiol, peidiwch â gadael i unrhyw beth eich rhwystro chi. Maen nhw wedi gwneud i mi deimlo fy mod yn perthyn yma a fy mod yn rhan ou teulu, sy’n wych gan fod angen i chi deimlon ddiogel ac yn hapus. Dywedodd person ifanc arall mewn gofal maeth: “Pan glywais i fy mod yn mynd i fod yn aros mewn lleoliad gyda chwpl hoyw roeddwn wedi fy nghyffroi, yr unig beth wnaeth groesi fy meddwl oedd beth fyddai fy ffrindiau yn ei feddwl neu’n dywed, ond roedd fy ffrindiau yn gefnogol iawn mewn gwirionedd ac yn cyd-dynnun dda. Ddylai pobl byth farnu cwpl hoyw, nhw ywr bobl fwyaf anhygoel a gofalgar y gallech chi eu cwrdd yn unrhyw le. Fyddwn i ddim yn newid fy amser yno am y byd.” I gael mwy o wybodaeth am faethu a mabwysiadu, ewch i wefan Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint www.flintshirefostering.org.uk neu www.northwalesadoption.gov.uk.